Rheoli Grantiau yng Nghymru

Rheoli Grantiau yng Nghymru

Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei adroddiad ar Reoli Grantiau yng Nghymru 2011 ym mis Tachwedd 2011. Nododd yr Archwilydd Cyffrediniol yn ei adroddiad, bod costau gweinyddu grantiau yn gymharol uchel a bod llawer o grantiau yn cael eu rheoli’n wael, a bod ariannwyr a rhai sy’n cael arian yn peidio â dysgu o gamgymeriadau a wnaethpwyd. Gwelodd dystiolaeth amlwg, fodd bynnag, bod rhai ariannwyr am wella.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i’r materion a nodwyd yn ei adroddiad.

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad interim ar Reoli Grantiau yng Nghymru ym mis Awst 2012 ac adroddiad terfynol ym mis Mehefin 2013.

 

Craffodd y Pwyllgor ar Adroddiad Rheoli Grantiau Blynyddol Llywodraeth Cymru mewn cyfres o sesiynau tystiolaeth rhwng mis Mawrth 2014 a mis Chwefror 2016. Tynnodd y sesiynau hynny ar gynnwys adroddiadau rheoli grantiau blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013, 2014 a 2015, a gyhoeddwyd fel rhan o’i hymateb i’r argymhellion yng ngwaith y Pwyllgor.

 

Argymhellodd y Pwyllgor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth fod y pwyllgor sy’n ei olynu yn parhau i graffu ar hynt gwaith Llywodraeth Cymru o ran gwella’r gwaith o reoli grantiau, yn tynnu ar adroddiadau blynyddol Llywodraeth Cymru, ac yn ystyried unrhyw dystiolaeth newydd ynghylch rheoli grantiau sy’n codi o waith yr Archwilydd Cyffredinol neu bryderon eraill sy’n cael eu tynnu at sylw’r Pwyllgor.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/04/2013

Dogfennau