Agenda a Chofnodion
- Manylion Presenoldeb
- Agenda PDF 177 KB Gweld Agenda fel HTML
- Papurau ar gyfer y cyfarfod hwn mewn pecyn PDF
- Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): gwybodaeth ychwanegol a ofynnwyd amdani yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mawrth PDF 2 MB
- Cofnodion y gellir eu hargraffu PDF 125 KB Gweld Cofnodion fel HTML
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan John Griffiths. Dirprwyodd Jenny Rathbone. 1.2
Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud
â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). |
|
(09.00 - 10.10) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 14 Kirsty
Williams AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio
(Cymru) Lisa
Salkeld, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Philippa
Watkins, y Gwasanaeth Ymchwil, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bil
Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) Cofnodion: 2.1
Ymatebodd Kirsty Williams, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, i gwestiynau gan
Aelodau. |
|
(10.15 - 11.45) |
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gwaith craffu cyffredinol a chyllidol. Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan
Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd Dr Andrew
Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Albert
Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Dr Ruth
Hussey, Prif Swyddog Meddygol Martin
Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Ymatebodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i gwestiynau gan Aelodau. 3.2
Cytunodd y Gweinidog: ·
i ddarparu
gwybodaeth ystadegol gefndir yn ymwneud â nifer yr unigolion yng Nghymru sydd â
salwch cronig a'r nifer sy'n cael triniaethau;
·
i roi
gwybod i'r Pwyllgor pan fydd yr adroddiad cenedlaethol 'Ymddiried Mewn Gofal',
ynghylch hapwiriadau o wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru, yn cael
ei gyhoeddi; ·
i
ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu manylion am ddyraniadau'r rhaglen
gyfalaf sydd wedi'u nodi yng nghynllun tair blynedd drafft Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gyfeirio'n benodol at unrhyw gynlluniau i
ddatblygu adran achosion brys Ysbyty Gwynedd; ac ·
i adolygu
canllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â newid gwasanaethau byrddau iechyd
lleol er mwyn sicrhau eu bod yn darparu'n ddigonol ar gyfer ymgysylltu â staff
yr effeithir arnynt, o bosibl. |
|
(11.45 - 12.25) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 15 Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru Anne Thomas, Linc Cymru ac yn cynrychioli Fforwm Gofal Cymru Michele Millard, Spire Cardiff Hospital ac yn cynrychioli
Cymdeithas
Gofal Iechyd Annibynnol Cymru Simon Rogers, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. |
|
(12.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 6, 7 a 12 o'r cyfarfod, ac o eitem 1 o'r cyfarfod ar 25 Mawrth 2015. Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.25 - 12.30) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a ddaeth i law. 6.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch a fydd Fframwaith Llywodraethu'r
Offeryn Aciwtedd (pan gaiff ei ddilysu) yn cynnwys cymarebau staffio sefydlog
sy'n berthnasol i'r holl wardiau cleifion mewnol i oedolion, boed yn wardiau
meddygol neu lawfeddygol. |
|
(12.30 - 12.35) |
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 7.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol mewn perthynas â chanllawiau ar lefelau diogel o ran defnyddio
meddygon locwm. |
|
(13.30 - 14.10) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 7 Sue Goodman, y Wallich Antonia Watson, y Wallich Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. |
|
(14.15 - 14.55) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 8 Stephen Coole, UCM Cymru Lucy-Ann Henry, UCM Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.2
Cytunodd y tystion i ddarparu i'r Pwyllgor:
|
|
(14.55 - 15.45) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 9 Arolygydd Nick McLain, Heddlu Gwent Paul Roberts, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jon Stratford, Cymdeithas Prif
Swyddogion yr Heddlu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 10.2
Cytunodd y tystion i ddarparu i'r Pwyllgor:
|
|
(15.45) |
Papurau i’w nodi |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 11.1a
Cytunodd y Pwyllgor i ddiwygio cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth i
gynnwys manylion am y wybodaeth ychwanegol y cytunodd yr Aelodau i ofyn amdani
gan fyrddau iechyd lleol a Chymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru ynghylch y
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth: gohebiaeth gan y Llywydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 11.2a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd er mwyn tynnu
sylw at bwysigrwydd rôl y Cynulliad o ran craffu ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 11.3a
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
(15.45 - 16.00) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 12.1 Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |