P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

'Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i bleidleisio o blaid y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) unwaith y caiff ei gyflwyno gerbron y Cynulliad.'

 

Gwybodaeth ychwanegol

O ystyried adroddiad Williams, pan fydd cynghorau'n uno, bydd unrhyw ofalwyr maeth sydd â lle, ar gael i awdurdodau cyffiniol os byddant wedi cofrestru i wneud hynny. Byddai'r arbedion cychwynnol o weithredu system gofrestru ddeuol gydag awdurdodau lleol cyn gweithredu'r cynllun uno yn torri costau ymhellach, ac yn arwain at ofal sy'n gost-effeithiol ac sydd o ansawdd uchel i blant sy'n cael eu cyflwyno i'r y system gofal ac sy'n derbyn gofal. Er enghraifft, pe bai Blaenau Gwent a Thorfaen yn gweithredu system ddeuol o gofrestru gofalwyr maeth, byddai hynny'n dyblu nifer y gofalwyr maeth a fyddai ar gael i'w paru gyda phlentyn sy'n cael ei gyflwyno i'r system derbyn gofal. (Mae sgiliau, argaeledd, lleoliadau presennol, a'r gallu i gludo plentyn i'r ysgol i gyd yn rhan o'r broses baru). Felly, byddai hynny'n dileu'r angen i ddefnyddio asiantaethau maethu annibynnol, sydd yn llawer drutach

 

Prif ddeisebydd: Richard Jones MBE 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

Nifer y llofnodion: 1,579 llofnod

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2015