Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: |
|
(9.00 - 9.10) |
Deisebau newydd |
|
P-04-557 Y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ofyn am ei barn am y
ddeiseb. |
||
(9.10 - 11.00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Deisebwr: ·
yn gofyn am
eglurhad o'r union gyfleusterau yr hoffent eu gweld ar gyfer Senedd TV; ac ·
yn ailadrodd cynnig cynharach y Llywydd i gynnal cyfarfod i drafod y
materion a godwyd yn y ddeiseb. |
||
P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch
iddi am roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac i ofyn iddi a fyddai modd parhau i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch unrhyw ddatblygiadau. |
||
P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn
i'r Gweinidog am ei sylwadau ar farn y deisebwyr. |
||
P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am
farn y Gweinidog am awgrymiadau pellach y deisebydd. |
||
P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ohirio ystyried yr eitem tan y cyfarfod nesaf, gan aros am gyngor
cyfreithiol; ac ·
wrth wneud hynny, tynnu sylw'r Deisebydd at y pwynt a wnaed gan y
Gweinidog yn ei lythyr sef fod y gofynion o ran iechyd a lles anifeiliaid fferm
yr un fath i fuches neu ddiadell o 10 anifail ag ydyw i 1000. |
||
P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y deisebydd a staff Aelod Cynulliad yr etholaeth a'r
rhanbarth gyda'r wybodaeth yn y briff ymchwil; a ·
chau'r ddeiseb. |
||
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd: •
y byddai croeso
i'r Deisebydd ymweld â safle'r Gyfnewidfa Lo; a •
chael adroddiad Cabinet Ionawr 2014 gan y Cyngor a'i rannu ag Aelodau cyn
yr ymweliad. |
||
P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon
copi o adroddiad Gwariant y Llywodraeth a Refeniw yr Alban (GERS) at y
Gweinidog gan ofyn a oes modd gwneud rhywbeth tebyg yng Nghymru. |
||
P-04-437 Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref Dogfennau ategol: |
||
P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn os gall prif ddeisebydd P-04-437 gymryd
rhan yn y gwaith o ddatblygu'r canllawiau anstatudol ar addysg yn y cartref,
sydd i'w llunio erbyn Mai 2015; ac ·
anfon datganiad diweddar y Gweinidog at y ddau ddeisebydd. |
||
P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog yn mynegi pryder difrifol am y diffyg ymateb gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; a'r ·
Cyngor Gofal Iechyd Cymunedol yn mynegi pryderon y Pwyllgor
ynghylch y Bwrdd Iechyd ac yn gofyn a ydynt wedi ymgymryd ag unrhyw
ymchwiliadau ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb. |
||
P-04-449 Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr - Achub ein Gwasanaethau - Atal yr Israddio! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb yn wyneb ymateb y deisebydd. |
||
P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog hysbysu'r Pwyllgor yn gyson iawn o unrhyw
ddatblygiadau yn y maes hwn a chadw golwg ar y mater; ac ·
wrth wneud hynny, gofyn i'r Gweinidog ystyried ac egluro sut
y bydd yn newid y broses ar gyfer ymgynghoriadau yn y dyfodol er mwyn sicrhau
bod ystyriaeth o farn a phrofiad y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan
hyn. |
||
P-04-502 Canolfan Lles ar gyfer Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn a fydd unrhyw agwedd ar gynigion y
ddeiseb yn cael eu cynnwys yn y Bil Cenedlaethau'r Dyfodol arfaethaedig, a
fydd, o bosibl, yn ymdrin â materion lles; a ·
chau'r ddeiseb. |
||
P-04-530 Labelu Dwyieithog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ohirio
ystyried yr eitem tan y cyfarfod nesaf, gan aros am gyngor cyfreithiol. |
||
P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn am yr adroddiad gan yr RSPCA. |