Is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd
Is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd
Weithiau, bydd y ddeddf alluogi yn dweud y gall is-ddeddfwriaeth
gael ei gwneud gyda Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i
gilydd.
Rhaid i'r math hwn o is-ddeddfwriaeth gael ei osod gerbron Senedd Cymru a
Senedd y DU. Bydd y ddeddf alluogi yn nodi pa weithdrefn sy'n berthnasol. Mae'r
gweithdrefnau hyn yn fersiynau wedi'u haddasu o'r gweithdrefnau sy'n gymwys i
offerynnau statudol Cymreig.
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2021