COVID-19
COVID-19
Yn ystod y Chweched Senedd (Mai 2021 ymlaen)
cynhaliwyd yr gweithgareddau canlynol gan Bwyllgorau'r Senedd sy'n ymwneud yn uniongyrchol
â COVID-19
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am waith y Senedd sy'n
ymwneud â COVID-19 drwy archwilio Pwnc COVID-19 ar ein gwefan.
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Mae Pwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig yn archwilio effaith pandemig COVID-19 ar bob maes o
fewn ei gylch gwaith.
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd yn gwneud gwaith ar effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth,
ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Y Pwyllgor Deisebau
Mae'r Pwyllgor Deisebau
yn delio â nifer o ddeisebau
sy'n ymwneud â COVID-19.
Comisiwn y Senedd
Mae Comisiwn y Senedd
yn ystyried yn rheolaidd oblygiadau
COVID-19 ar Staff Comisiwn y Senedd a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu i Aelodau'r
Senedd
Y Bumed Senedd (Ebrill 2020 i Ebrill 2021)
Yn dilyn datgan Argyfwng Iechyd Cyhoeddus COVID-19 yng Ngwanwyn
2020, bu nifer o Bwyllgorau’n ystyried agwedd Llywodraeth Cymru at yr ymateb oedd
yn ofynnol er mwyn mynd i’r afael â goblygiadau pandemig COVID-19.
Ar ôl atal busnes dros dro, ailddechreuodd gweithgareddau’r
pwyllgorau yr wythnos yn dechrau 27 Ebrill 2020. Mae dadansoddiad o weithgareddau'r
pwyllgorau isod.
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Roedd rhaglen y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19 ar iechyd
a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Roedd gwaith y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn canolbwyntio ar effaith y sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol
ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch.
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Roedd gwaith y Pwyllgor
Diwylliant, Cymraeg a Chyfathrebu yn canolbwyntio ar effaith y feirws ar ddiwylliant, y
diwydiannau creadigol, treftadaeth, cyfathrebu a chwaraeon.
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Roedd gwaith y Pwyllgor
Economi, Seilwaith a Sgiliau yn canolbwyntio ar effaith COVID-19 ar faterion yn
ymwneud â'i gylch gwaith.
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Roedd gwaith y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn canolbwyntio ar ei ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith
ar faterion yn ymwneud â'i gylch gwaith.
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Roedd gwaith y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn canolbwyntio ar effaith COVID-19 ar y sectorau amaeth a
physgodfeydd, cyflenwad bwyd a lles anifeiliaid.
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad yn parhau i fonitro is-ddeddfwriaeth yn ystod
y pandemig, gan gynnwys unrhyw reoliadau’n ymwneud â COVID-19.
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae Cadeirydd y Pwyllgor ac Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth
Cymru wedi cyfnewid gohebiaeth ynghylch y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd
wrth ddelio ag Argyfwng Iechyd y Cyhoedd. Cafodd y Pwyllgor ei briffio gan yr Ysgrifennydd
Parhaol a chynhaliodd ddeialog ynghylch y camau a gymerwyd hyd yn hyn, o fewn cylch
gwaith y Pwyllgor ar 4 Mai 2020. Bydd gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn parhau
i ganolbwyntio ar effaith COVID-19 ar faterion sy'n ymwneud â'i gylch gwaith.
Y Pwyllgor Cyllid
Roedd gwaith y Pwyllgor
Cyllid yn canolbwyntio ar yr effaith ariannol a'r gefnogaeth i Gymru o ganlyniad
i COVID-19.
Y Pwyllgor Craffu
ar Waith y Prif Weinidog
Yn 2020, cytunodd
y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
y byddai ei waith yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19.
Yn ogystal â chynnal sesiynau craffu rheolaidd gyda’r Prif Weinidog, cyfarfu’r Pwyllgor
hefyd i graffu ar waith y Cwnsler Cyffredinol o ran ei rôl yn cydgysylltu gwaith
Llywodraeth Cymru o ailadeiladu yn dilyn y pandemig.
Sesiynau rhithwir (pob pwyllgor)
Roedd rhaglen dreigl o sesiynau rhith-bwyllgorau'n rhedeg
ochr yn ochr â'r gweithgareddau hyn. Gellir bwrw golwg ar fanylion pa bwyllgorau
a gyfarfu bron bob wythnos ar dudalen amserlen y Senedd neu
ar hafan pob pwyllgor perthnasol.
Galwadau am dystiolaeth
Ymatebodd pwyllgorau i'r sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol
wrth iddi ddatblygu, a chyhoeddwyd galwadau pellach am dystiolaeth. I gael rhagor
o wybodaeth, ewch i’r hafan ymgynghoriadau.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/03/2020
Dogfennau
- COVID-19 a phwyllgorau'r Cynulliad: Taflen ffeithiau - 8 Ebrill 2020 PDF 69 KB
- Gohebiaeth y Pwyllgor Cyllid
- Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - Covid-19: Cymorth i Gymru - 24 Medi 2020 PDF 196 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Covid-19: Cymorth i Gymru - 24 Medi 2020 PDF 169 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Ymateb ariannol i Covid-19 - 5 Medi 2020 (Saesneg yn unig) PDF 282 KB
- Llythyr gan y Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'r Prif Weinidog - 3 Medi 2020 PDF 143 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Diweddariad ar y Cyllid canlyniadol y mae Cymru wedi'i dderbyn o ganlyniad i COVID-19 - 19 Awst 2020 PDF 374 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Cais am wybodaeth bellach yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar yr ymateb ariannol i Covid-19, 22 Gorffennaf 2020 PDF 168 KB
- Llythyr at y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Arian canlyniadol yn Niweddariad Economaidd yr Haf, 22 Gorffennaf 2020 PDF 139 KB
- Ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Goblygiadau ariannol o’r COVID-19 pandemig, 3 Gorffennaf 2020 PDF 149 KB
- Llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Goblygiadau ariannol o’r COVID-19 pandemig, 4 Mehefin 2020 PDF 490 KB Gweld fel HTML (11) 11 KB
- Llythyr at Archwilio Cymru - Goblygiadau ariannol o’r COVID-19 pandemig, 4 Mehefin 2020 PDF 569 KB Gweld fel HTML (12) 20 KB
- Ymateb gan Archwilio Cymru - Goblygiadau ariannol o'r COVID-19 pandemig, Gorffennaf 2020 PDF 131 KB
- Llythyr at Gomisiwn y Senedd - Goblygiadau ariannol o’r COVID-19 pandemig, 4 Mehefin 2020 PDF 136 KB
- Ymateb gan Gomisiwn y Senedd - Goblygiadau ariannol o’r COVID-19 pandemig, 7 Gorffennaf 2020 PDF 340 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd at Ganghellor y Trysorlys, 3 Gorffennaf 2020 (Saesneg yn unig) PDF 463 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru at Ganghellor y Trysorlys, 4 Mehefin 2020 (Saesneg yn unig) PDF 276 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cyfarfodydd Pedrochr y Gweinidogion Cyllid, 19 Mehefin 2020 PDF 253 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd Gwladol Cymru – 8 Mehefin 2020 PDF 164 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - Ymateb ariannol i'r ' Covid '-19 pandemig, 24 Ebrill 2020 PDF 387 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a’ r Trefnydd – Ymateb ariannol i’r pandemig COVID-19 - 9 Ebrill 2020 PDF 154 KB
- Ymateb gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Covid-19: Cymorth ar gyfer Cymru - 9 Ebrill 2020 PDF 174 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Covid-19: Cefnogaeth i Gymru, 23 Mawrth 2020 PDF 128 KB
- Gohebiaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
- Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - 28 Ebrill 2020 PDF 478 KB
- Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru - 20 Ebrill 2020 PDF 239 KB
- Llythyr ar y cyd gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a’r Pwyllgor Cyllid – 14 Ebrill 2020 PDF 392 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru - 17 Ebrill 2020 PDF 203 KB
- Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - 30 Mawrth 2020 PDF 507 KB
- Gohebiaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
- Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes at y Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - 9 Ebrill 2020 PDF 118 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes - 2 Ebrill 2020 PDF 228 KB
- Llythyr gan Grŵp Rhanddeiliaid Hawliau Dynol Cymdeithas Sifil Cymru a'r Sefydliadau Cydraddoldeb sy'n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau – 20 Ebrill 2020 (Saesneg yn unig) PDF 365 KB Gweld fel HTML (33) 6 KB
- Gohebiaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
- Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch hawliau dynol - 20 Ebrill 2020 PDF 214 KB
- Gohebiaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
- Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Pwyllgor Busnes-15 Ebrill PDF 85 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn ar 19 Mawrth - 3 Ebrill 2020 PDF 167 KB
- Ymgynghoriad – fersiwn sy'n addas i blant PDF 1 MB
- Gohebiaeth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Gadeirydd Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ'r Cyffredin: Twyllwybodaeth a chamwybodaeth am COVID-19 - 24 Ebrill 2020 PDF 114 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at BBC Cymru Wales: BBC Breakfast a bwletinau newyddion o Gymru - 27 Mai 2020 PDF 283 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Llywodraeth Cymru: Arian ychwanegol Llywodraeth y DU ar gyfer diwylliant PDF 180 KB