Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1&2 Cyfynol - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

1.3 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn gyfarwyddwr yr elusen Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, ac yn gadeirydd Clwb Fferwmwyr Ifanc Sir Benfro.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr gan Weinidog yr Economi

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd

Dogfennau ategol:

2.5

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Dogfennau ategol:

2.6

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

2.7

Llythyr gan Weinidog yr Economi

Dogfennau ategol:

2.8

Llythyr gan Gyswllt Amgylchedd Cymru

Dogfennau ategol:

2.9

Llythyr gan Weinidog yr Economi

Dogfennau ategol:

(09.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.30-10.00)

4.

Bil Amaethyddiaeth (Cymru) – Cytuno ar y dull craffu

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Bil.

4.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:

- y cylch gorchwyl drafft ar gyfer ymgynghori;

- dull y Pwyllgor o graffu yng Nghyfnod 1

- yn amodol ar ychydig o ychwanegiadau, rhestr y rhanddeiliaid ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig;

- y tystion i’w gwahodd i roi tystiolaeth lafar; a

- chyfnod ymgynghori o chwe wythnos.

4.3 Byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes ynghylch yr amserlen graffu arfaethedig.

 

(10.00-11.00)

5.

Bil Amaethyddiaeth (Cymru) – Briff Technegol gan Lywodraeth Cymru

James Owen, Prif Berchennog Cyfrifol (y Bil)

Hannah Fernandez, Arweinydd Polisi (Rheoli Tir yn Gynaliadwy a Chymorth yn y Dyfodol)

Jon Travis / Fiona McFarlane, Polisi (Coedwigaeth)

Claire Lawson, Polisi (Maglau a Thrapiau Glud)

Dorian Brunt, Gwasanaethau Cyfreithiol, Amaethyddiaeth

Bill Cordingley, Gwasanaethau Cyfreithiol, Bywyd Gwyllt (Coedwigaeth, Maglau a Thrapiau Glud)

 

 

Cofnodion:

5.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio dechnegol ar y Bil gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

(11.10-12.10)

6.

Diweddariad ynghylch Gwaith Craffu Deddfwriaethol

Cofnodion:

5.1 Cafodd yr Aelodau gyflwyniad ar y broses ddeddfwriaethol.

 

(12.10-12.20)

7.

Ymweliadau Rapporteur â Ffermydd: Adborth gan Aelodau

Cofnodion:

7.1 Adroddodd Vikki Howells AS a Luke Fletcher AS yn ôl ar yr ymweliadau fferm a ddigwyddodd ar 22 Medi.