Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. Datganodd Vaughan
Gething AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Pan fyddai’r
Pwyllgor yn dechrau trafod Deiseb P-06-1450, o dan eitem 3.6, byddai’n esgusodi
ei hun o’r trafodaethau bryd hynny, o ystyried ei bod yn ymdrin yn sylweddol â
rhywfaint o’i hanes yn y Llywodraeth. Datganodd Carolyn
Thomas AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Cyn iddi fod yn
aelod o’r Pwyllgor, llofnododd ddwy ddeiseb ar yr agenda – eitem 3.1, deiseb
P-06-1272, ‘Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewncytundebau
tenantiaeth yng Nghymru’, y datganodd hefyd a gyflwynwyd gan aelod o’i staff,
ac eitem 3.4, deiseb P-06-1394 mewn perthynas â pharc arfordirol Penrhos. |
|
|
Deisebau newydd |
|
|
P-06-1492 Cadw mynediad 24 awr i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ac roedd gwahaniaeth barn ynghylch a ddylid ei chadw ar
agor, o ystyried bod y mater yn debygol o gael ei godi yn y Cyfarfod Llawn.
Fodd bynnag, barn y mwyafrif oedd tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd
a Gofal Cymdeithasol at y ddeiseb (hefyd yn nodi’r ddeiseb ar wahân nad yw i’r
Senedd, gan y grŵp
ymgyrchu SOSPPAN sydd â thros
10,000 o lofnodion), a chadw’r ddeiseb ar agor am chwe mis arall i weld canlyniad gwaith monitro’r
Ysgrifennydd Cabinet a’r Bwrdd Iechyd o’r sefyllfa. |
|
|
P-06-1495 Sefydlu strwythur o fewn y Senedd i wahardd gwleidyddion sy’n euog o ddichell fwriadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn
trafodaeth, y consensws oedd, gan fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn bwrw
ymlaen â’r mater, ei bod yn briodol diolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1496 Gwneud prawf sgrinio calon yn ofyniad hanfodol ar gyfer aelodaeth o glybiau chwaraeon a champfeydd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd yr
Aelodau'n gwerthfawrogi bod hwn yn fater pwysig a sensitif. Fodd bynnag, roedd
yn amlwg o dystiolaeth yr arbenigwyr sy’n cynghori gwledydd y DU nad ydynt yn
argymell hyn am y tro, ac nid yw’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu
ei wneud. Felly, roedd y Pwyllgor yn diolch i’r deisebydd ond yn cytuno i gau’r
ddeiseb. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y gwaith a wnaed ar y mater hwn gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd,
a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi yn ei Phapur Gwyn y ffordd y mae’n bwriadu
mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu perchnogion anifeiliaid anwes. Gan
hynny, penderfynodd yr Aelodau ddiolch i’r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1389 Cyflwyno terfyn cyflymder o 30mya ar y gefnffordd trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr
Aelodau i rannu sylwadau a chwestiynau diweddaraf y deisebydd gydag
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru a chadw’r ddeiseb yn
agored hyd nes y byddai diweddariad pellach ar yr opsiwn y cytunir arno ar
gyfer y ffordd yn dod i law. Fodd bynnag, cytunwyd i gau’r ddeiseb y tro nesaf
y byddai’n cael ei thrafod, gyda’r bwriad i’r Aelodau lleol wedyn fwrw ymlaen â
hi. Byddai'r Pwyllgor yn sicrhau bod yr Aelodau lleol yn gwybod am y mater,
rhag ofn nad oedd yn gwybod amdano. |
|
|
P-06-1390 Rhoi diwedd ar bob bwyd â chymhorthdal yn y Senedd ac i staff Llywodraeth Cymru yn gyffredinol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd y deisebydd
wedi cael esboniad gan yr Ysgrifennydd Parhaol a’r Llywydd am faint a rhesymeg
dros y cymorthdaliadau arlwyo yn Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru. Gan hynny,
diolchodd yr Aelodau i’r deisebydd a chytunwyd i gau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1394 Dylid ymyrryd yn natblygiad Parc Arfordirol Penrhos yn gyrchfan wyliau ar Ynys Môn Dogfennau ategol: Cofnodion: Wrth drafod y
ddeiseb, roedd gwahaniaeth barn rhwng yr Aelodau. Fodd bynnag, barn mwyafrif y
Pwyllgor oedd peidio â chymryd unrhyw gamau pellach, ond diolch i’r deisebydd a
chau’r ddeiseb heb ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn. Nododd y Cadeirydd y
byddai'n parhau i fynd ar drywydd y mater yn rhinwedd ei rôl fel Aelod Gogledd
Cymru. |
|
|
P-05-1448 Atal llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, a nododd hefyd fod deiseb P-06-1478 yn Eitem 3.7 ar yr
agenda hefyd yn cyfeirio at faterion yn ymwneud ag ansawdd dŵr yn Aberogwr, felly gohiriwyd
penderfyniad terfynol ar y camau gweithredu hyd nes y byddai’r eitem honno’n
cael ei thrafod. Cytunodd y Pwyllgor wedyn i ddiolch i'r deisebydd a chau'r
ddeiseb, ond wrth wneud hynny i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
yr Amgylchedd a Seilwaith at y ddeiseb a sylwadau’r deisebydd i’w trafod yn ei
waith craffu ar CNC ym mis Mawrth 2025. |
|
|
P-06-1450 Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy'r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd Vaughan
Gething wedi datgan buddiant ar ddechrau’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon, o
ystyried bod y ddeiseb yn ymdrin yn sylweddol â peth o’i hanes yn y
Llywodraeth, ac esgusododd ei hun o drafod y ddeiseb. Trafododd
gweddill y Pwyllgor y ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau, oherwydd natur y ddeiseb,
nad y Pwyllgor Deisebau oedd y lle gorau i fwrw ymlaen â’r hyn y mae’r ddeiseb
yn gofyn amdano. Felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb ac i anfon ymateb y
deisebydd ymlaen at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a
chyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, iddynt fod
yn ymwybodol ohono. Nododd yr Aelodau
hefyd ei bod yn bosibl dilyn gwaith Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19
Cymru ar wefan y Senedd. |
|
|
P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr
Aelodau mai’r peth mwyaf priodol oedd i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd
a Seilwaith y Senedd fynd ar drywydd y materion hyn yn ei waith craffu ar CNC
ym mis Mawrth 2025. Byddai cwestiynau a sylwadau'r deisebwyr - ynghyd â rhai
deiseb 1448 Atal llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr - yn cael eu hanfon at
Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw. Diolchodd yr Aelodau i’r deisebydd a chytunwyd i
gau’r ddeiseb. |
|
|
P-06-1485 Dylid cyflwyno rhwydwaith o Lyfrgelloedd Teganau ledled Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd y deisebydd
wedi cael ymateb calonogol i'w gynnig ac roedd y Pwyllgor yn falch o fod wedi
helpu. Fodd bynnag, nid oedd llawer mwy y gallai’r Pwyllgor ei wneud ar y mater
bellach, felly diolchodd yr Aelodau i’r deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb. |
|
|
Papurau i'w nodi |
|
|
P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y papurau. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
|
Trafod yr adroddiad drafft - P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddrafft cyntaf o’r adroddiad gan ei dderbyn mewn egwyddor, yn amodol
ar fân newidiadau i destun yr adroddiad i gytuno arnynt drwy e-bost. |
PDF 87 KB