P-06-1485 Dylid cyflwyno rhwydwaith o Lyfrgelloedd Teganau ledled Cymru
P-06-1485 Dylid cyflwyno rhwydwaith o Lyfrgelloedd Teganau ledled Cymru
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Bleddyn Lake, ar ôl casglu 297 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Gall teganau
plant fod yn ddrud, maent yn aml yn cael eu defnyddio am gyfnod byr yn unig,
gallant ychwanegu at annibendod mewn cartrefi ac yn aml maent yn cael eu taflu
i ffwrdd, hyd yn oed os nad ydynt wedi torri.
Mae llyfrgelloedd
teganau wedi profi eu hunain fel ffordd o gynnig mynediad at lawer o deganau na
fyddai plant yn dod i gysylltiad â nhw oherwydd cost neu hyd yn oed ddiffyg lle
yn y cartref. Maent yn opsiynau effeithiol o ran cost yn lle prynu teganau newydd,
gallant fod yn fforymau cymunedol i ddod â rhieni a gofalwyr at ei gilydd a
gallant helpu i leihau ein defnydd o adnoddau.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae rhieni a
gofalwyr yn gwario oddeutu £300 ar gyfartaledd ar deganau bob blwyddyn. Teganau
plastig yw llawer o’r rhain. Gyda’r rhan fwyaf o blastig yn cael eu wneud o
olew, yr amcangyfrif yw y gallai plastig gyfrif am oddeutu 20 y cant o’r holl
ddefnydd olew ledled y byd, os na fyddwn ni’n cymryd camau ynghylch hyn.
Mae gan
lyfrgelloedd teganau eu rhan i’w chwarae yn lleihau gwastraff, lleihau’r
defnydd o blastic, lleihau allyriadau i’r hinsawdd ac arbed arian i rieni,
gofalwyr a theuluoedd hefyd.
Byddai hyn yn
helpu ffocws Llywodraeth Cymru ar yr ‘hawl i chwarae’ i blant a’r ‘economi
gylchol’.
Rydym yn gofyn i
Lywodraeth Cymru weithio gyda phob grŵp perthnasol yng Nghymru i gyflwyno rhwydwaith
cenedlaethol o lyfrgelloedd teganau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
03/02/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 18/11/2024.

Etholaeth a Rhanbarth y
Senedd
·
Gorllewin Caerdydd
·
Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/11/2024