P-06-1492 Cadw mynediad 24 awr i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli
P-06-1492 Cadw mynediad 24 awr i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Alexander Bryant-Evans, ar ôl casglu 969 lofnodion
Geiriad y
ddeiseb:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda yn cynnig bod yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn
Llanelli yn cael ei hisraddio i wasanaeth 12 awr yn hytrach na gwasanaeth 24
awr.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Llanelli yw’r
boblogaeth drefol fwyaf yn Sir Gaerfyrddin, ac un o'r rhai mwyaf yn ardal Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac felly mae angen mynediad 24 awr, fan leiaf, i'r
Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip.
Os bydd llai o
wasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, bydd mwy o bobl yn troi at y
gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn yr ysbytai yn Nhreforys a
Glangwili, gan arwain at amseroedd aros hwy yn y ddau leoliad.
Nid yw'n
dderbyniol i'r bwrdd iechyd leihau'r gwasanaeth hwn i ddim ond 12 awr y dydd
(8am - 8pm).
Er mwyn sicrhau
bod pobl Llanelli yn cael mynediad at y driniaeth feddygol y maent yn ei haeddu
ac i atal gorlenwi’r adrannau damweiniau ac achosion brys cyfagos, ni ddylid
caniatáu i'r newid hwn yn Ysbyty’r Tywysog Philip fynd rhagddo.
Mae’r ddeiseb hon
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar benderfyniad y Bwrdd Iechyd ac atal y
newid hwn rhag digwydd yn Llanelli, er mwyn diogelu a chynnal gwasanaeth mân
anafiadau 24 awr.

Etholaeth a Rhanbarth y
Senedd
·
Llanelli
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/12/2024