Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen AS. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Roedd Mike Hedges
AS yn bresennol yn y cyfarfod yn dirprwyo ar ran Buffy Williams AS. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1381 Gwrthodwch bob cynllun ar gyfer Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Atal Tagfeydd ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru yn glir ynghylch ei
chynlluniau. Nid oes unrhyw
gynlluniau ar y gweill i gyflwyno taliadau cyffredinol ar gyfer modurwyr, a
byddai cynlluniau o'r fath ond yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â mannau
problemus o ran llygredd aer. Nododd
Joel James AS bryderon am yr effaith y gallai unrhyw daliadau yng Nghaerdydd yn
y dyfodol ei chael ar ei etholwyr sy’n cymudo i’r ddinas. Fodd bynnag, cytunodd
yr Aelodau i gau’r ddeiseb, o ystyried nad oedd unrhyw beth pellach y gallent
ei wneud, a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1382 Dylid gwahardd rhyddhau balwnau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau
i annog newid diwylliannol ac ymddygiadol, yn hytrach na chyflwyno gwaharddiad
llwyr. Yng ngoleuni'r ymateb hwn, nid yw'n glir beth arall y gall y Pwyllgor ei
wneud i fwrw ymlaen â'r ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd am
dynnu sylw at y mater pwysig hwn a chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i gadarnhau a
fyddai'n ystyried darparu cymorth dyngarol os bydd y Pwyllgor Argyfyngau Brys
yn lansio apêl. Gwnaeth yr Aelodau annog y Gweinidog hefyd i gyfarfod â'r
elusennau dyngarol sy'n ymwneud ag apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys yng Nghymru. |
|
P-06-1388 Dileu’r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig a Chadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith i dynnu sylw at y ddeiseb hon ac i ofyn a ellir ystyried
hyn fel rhan o unrhyw waith yn y dyfodol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Nododd yr Aelodau
hefyd y bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnal
ymchwiliad undydd i gynllyn Cyswllt Ffermio ar 22 Chwefror. Yng ngoleuni’r
gwaith sy’n debygol o gael ei wneud gan Bwyllgorau eraill ar y mater, cytunodd
yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1389 Cyflwyno terfyn cyflymder o 30mya ar y gefnffordd trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog i rannu
ymateb manwl y deisebydd ac i wneud yr hyn a ganlyn:
gofyn am yr
amserlen ar gyfer cyhoeddi’r canllawiau Gosod Terfynau Cyflymder Lleol newydd
yng Nghymru, ac a fydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i adolygu’r terfyn
cyflymder yn Eglwys Fach a Ffwrnais. |
|
P-06-1390 Rhoi diwedd ar bob bwyd â chymhorthdal yn y Senedd ac i staff Llywodraeth Cymru yn gyffredinol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at
Gomisiwn y Senedd a Llywodraeth Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb. |
|
P-06-1393 Dylid grymuso rhieni i ddewis: Yr hawl i gael eithriad a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chydnabod pryderon gwirioneddol rhieni, ond nododd fod
Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n helaeth ar y cwricwlwm Addysg Cydberthynas
a Rhywioldeb a bod gwaith craffu manwl wedi'i wneud arno yn y Senedd. Yng
ngoleuni hyn, nid yw’r Aelodau’n credu ei bod yn briodol cymryd unrhyw gamau
pellach ar y ddeiseb a chytunwyd i’w chau. Yn ogystal â
chau'r ddeiseb, awgrymodd yr Aelodau y dylai rhieni gysylltu â'u hysgolion
unigol, Byrddau Llywodraethwyr ac awdurdodau lleol mewn perthynas â phryderon
ynghylch cyfathrebu effeithiol a defnyddiol ynghylch cyflwyno'r cwricwlwm. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1353 Datganoli cyfrifoldebau a chyllidebau ar gyfer cefnffyrdd yng ngogledd Cymru i ogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Gweinidog yn glir yn ei ymateb nad oes unrhyw
gynlluniau i ddatganoli cyfrifoldebau i Ogledd Cymru. Yn sgil hyn, cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1345 Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebwyr bellach wedi cael canlyniad
llwyddiannus, ar ôl i CADW gytuno i ariannu gwaith arolygu hanfodol yng
Nghastell Rhiw'r Perrai. O ganlyniad
cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb ar hyn o bryd a llongyfarch y deisebwyr ar
eu hymgyrch lwyddiannus, gan ddymuno’n dda iddynt gyda’u hymdrechion yn y
dyfodol i achub yr adeilad hanesyddol hwn. |
|
P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Mike
Hedges AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Ef yw cadeirydd y
grŵp trawsbleidiol ar
glefydau prin. Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo
aelodau o'r teulu sydd â’r cyflwr. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er bod y deisebwyr yn croesawu’r cynnydd a’r cyfle
i weithio gyda’r rhwydwaith strategol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau
cyhyrysgerbydol a’r rhwydwaith gweithredu clefydau prin, fod ganddynt rai
cwestiynau pellach yr hoffent gael ateb iddynt. Yng ngoleuni hyn cytunodd yr
Aelodau i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
ofyn am atebion i'r cwestiynau a godwyd gan y deisebwyr. |
|
P-06-1352 Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Peredur
Owen Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo
aelodau o'r teulu sy'n byw yn yr ardal. Datganodd Mike
Hedges AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ei ferch yn
croesi'r bont yn ddyddiol. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y ceir ymateb gan y
Gweinidog i'r adroddiad. |
|
P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru? Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor a gofyn i'r deisebydd roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddo gyfarfod â swyddogion Llywodraeth
Cymru. |
|
P-06-1366 Adfer y cyllid ar gyfer gwasanaethau Bysiau Cwm Taf 351 (Dinbych-y-pysgod i Bentywyn) a 352 (Dinbych-y-pysgod i Gilgeti) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod yr awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau i
adfer rhai o'r gwasanaethau yr oedd pryderon eu bod wedi cael eu colli. Nododd yr Aelodau
hefyd y bydd y Pwyllgor yn siarad â gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus ar ôl
hanner tymor mewn perthynas â deisebau eraill, ac y bydd yn codi rhai o'r
heriau sy'n wynebu'r sector bysiau. Yn sgil hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1370 Achub y ddarpariaeth mân anafiadau dros nos yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd benderfyniad y Bwrdd Iechyd, gan nodi bod hyn i bob
pwrpas yn dod â'r ddeiseb i ben yn naturiol. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r
deisebwyr am eu hymgyrch gref, a'u geiriau caredig am y Pwyllgor, a chau'r
ddeiseb. |
|
P-06-1373 Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat “Skyline” ar Fynydd Cilfái, Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor ac aros am ganlyniad y cais
cynllunio. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |