P-06-1353 Datganoli cyfrifoldebau a chyllidebau ar gyfer cefnffyrdd yng ngogledd Cymru i ogledd Cymru
P-06-1353 Datganoli cyfrifoldebau a chyllidebau ar gyfer cefnffyrdd yng ngogledd Cymru i ogledd Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Askar Sheibani, ar ôl casglu
330 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd mae’r holl ffyrdd, ac eithrio cefnffyrdd
mawr, yn dod o dan gyfrifoldeb y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Bydd
cynnwys y rhwydweithiau cefnffyrdd o fewn cyfrifoldeb y chwe awdurdod lleol yng
ngogledd Cymru yn arwain at benderfyniadau llawer mwy perthnasol a phragmatig,
gan fod gan awdurdodau lleol ddealltwriaeth lawer gwell o anghenion busnesau,
cymunedau, a’r economi leol.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae gan ogledd Cymru rai o’r parciau diwydiannol mwyaf
(fel Wrecsam a Glannau Dyfrdwy) yn y DU. Mae llawer o gwmnïau rhyngwladol
adnabyddus wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru. Mae nifer y swyddi
gweithgynhyrchu yn yr ardal ymhlith y mwyaf yn y DU. Mae Caergybi, dau faes
awyr rhyngwladol (Lerpwl a Manceinion) yn ei gwneud yn hawdd hyrwyddo gogledd
Cymru fel lle gwych ar gyfer buddsoddi. Yn anffodus, mae ei rwydwaith ffyrdd yn
hen ac felly yn atal y rhanbarth rhag cyflawni ei botensial ar gyfer twf
economaidd. Mae’n rhaid i’r ffyrdd hyn, gan gynnwys y cefnffyrdd, gael eu
cynllunio a’u dylunio ar y cyd â’r cymunedau a busnesau lleol er mwyn sicrhau
bod unrhyw fuddsoddiad yn dwyn y buddion economaidd gorau posibl. Bydd hyn yn
mynd i'r afael ag anghenion lleol megis mynediad hawdd at gyflogaeth. Dim ond
penderfyniad lleol fydd yn mynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth ffyrdd gogledd
Cymru. Mae angen gwrando ar lais busnesau a chymunedau lleol.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Alun a Glannau Dyfrdwy
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2023