P-06-1370 Achub y ddarpariaeth mân anafiadau dros nos yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard John, ar ôl casglu cyfanswm o 5,182
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi nodi ei fod yn bwriadu cau ei
Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall dros nos. Bydd hyn yn golygu mai dim
ond un Uned Mân Anafiadau fydd ar agor rhwng 1am a 7am yn ardal gyfan y bwrdd
iechyd – yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Byddai’r newid hwn yn cynyddu amseroedd teithio yn sylweddol i drigolion ym
Mlaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen a rhannau o Gaerffili. Byddai’r newid yn
gwneud Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty y Faenor yn fwy prysur fyth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’r bwrdd iechyd wedi cychwyn ymgynghoriad ar y cynnig: https://bipab.gig.cymru/amdanom-ni/ymgysylltu/ymgysylltu-ymgynghori-cyhoeddus/cyfleoedd-presennol/ymgysylltiad-8-wythnos-ar-ddarparu-gwasanaethau-uned-man-anafiadau/.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/11/2023