P-06-1393 Dylid grymuso rhieni i ddewis: Yr hawl i gael eithriad a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
P-06-1393 Dylid grymuso rhieni i ddewis: Yr hawl i gael eithriad a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mohamed Mostafa, ar ôl
casglu 1,756 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r ddeiseb hon yn eiriol dros ddewis rhieni a
chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae’n
amlygu pwysigrwydd parchu credoau amrywiol, diogelu hawliau rhieni, a
galluogi’r dewis i gael eithriad. Nod y ddeiseb yw meithrin dealltwriaeth a
pharch, ac atal gwahaniaethu.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Diben y ddeiseb hon yw sicrhau dewis i rieni a
hyrwyddo cyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Mae'n cydnabod y credoau amrywiol sydd gan rieni ac yn pwysleisio pwysigrwydd
parchu eu hawliau. At hynny, mae’n mynd i'r afael â phryderon ynghylch diffyg
dewis i gael eithriad, a allai amharu ar ymreolaeth rhieni. Trwy ddewis cael
eithriad, gall rhieni alinio addysg eu plentyn â'u hargyhoeddiadau crefyddol
neu bersonol. Mae'r dull hwn yn meithrin amgylchedd mwy cynhwysol sy'n parchu
gwerthoedd a chredoau'r holl deuluoedd o dan sylw. At hynny, arwyddocâd cynnal
deialog agored, cyd-ddealltwriaeth a pharch at safbwyntiau amrywiol o fewn y
rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae'n eirioli dros fframwaith
addysgol sy'n osgoi gwahaniaethu, yn cynnal hawliau rhieni, ac yn annog
cyfranogiad gweithredol rhieni yn addysg eu plentyn. Drwy sicrhau cydbwysedd
rhwng cynwysoldeb ac ymreolaeth rhieni, gall y rhaglen Addysg Cydberthynas a
Rhywioldeb ,ddarparu ymagwedd fwy cynhwysfawr a pharchus at addysg cydberthynas
a rhywioldeb.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 29/01/2024
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd
uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 29/01/2024.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2024