Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol. Hefin David MS Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Hefin David AS. Mae Mr David yn ymgyrchydd ar y mater
hwn a cheisiodd gyflwyno deddfwriaeth yn hyn o beth yn y gorffennol. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn:
a yw’n credu y
byddai cynyddu cyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer addysg a chlustnodi canran
ar gyfer cyflogaeth cynorthwywyr addysgu yn ffordd effeithiol o fynd i’r afael
â rhai o’r heriau. |
|
P-06-1321 Diogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er ei bod yn siomedig na fydd cyllid yn cael ei
glustnodi ar gyfer canolfannau hamdden, roedd y deisebydd wedi teimlo bod
cyfarfod diweddar â'r Gweinidog yn ddefnyddiol, a bydd nawr yn canolbwyntio ei
ymgyrch barhaus â Llywodraeth y DU. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am amlygu’r mater pwysig hwn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor hanes y ddeiseb a nododd ganlyniad llwyddiannus y ddeiseb. Diolchodd
yr Aelodau i Leeanne Bartley a’i theulu, a phawb sydd wedi ymgysylltu â’r
ymchwiliad hwn, ac wedyn cytunodd i gau’r ddeiseb. |
|
P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, ac yng ngoleuni deddfwriaeth newydd y DU i erlyn o ran
defnydd anghyfrifol a pheryglus o gychod dŵr, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru i ofyn a yw’n bwriadu gwella'r amddiffyniad i fywyd gwyllt ar
ein harfordiroedd. |
|
P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau'r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar y
cwestiynau a godwyd yng ngohebiaeth y deisebydd. |
|
P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddi ymgynghoriad Cyngor Caerdydd
ar ei gyllideb ar gyfer 2023/24. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth, a chytunodd i baratoi papur cwmpasu i amlinellu cylch
gorchwyl ar gyfer ymchwiliad ar y mater. |