Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol.

Hefin David MS

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hefin David AS. Mae Mr David yn ymgyrchydd ar y mater hwn a cheisiodd gyflwyno deddfwriaeth yn hyn o beth yn y gorffennol.

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn:

 

  • ei barn ar sut i wella cyflog ac amodau gwaith cynorthwywyr addysgu;
  • beth allant ei wneud i annog awdurdodau lleol i fabwysiadu'r disgrifiadau swydd newydd sy'n cael eu datblygu;
  • pa waith sy'n digwydd yn benodol i sicrhau bod gan gynorthwywyr addysgu gontractau blwyddyn lawn yn hytrach na chontractau yn ystod y tymor yn unig; ac

a yw’n credu y byddai cynyddu cyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer addysg a chlustnodi canran ar gyfer cyflogaeth cynorthwywyr addysgu yn ffordd effeithiol o fynd i’r afael â rhai o’r heriau.

 

3.2

P-06-1321 Diogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er ei bod yn siomedig na fydd cyllid yn cael ei glustnodi ar gyfer canolfannau hamdden, roedd y deisebydd wedi teimlo bod cyfarfod diweddar â'r Gweinidog yn ddefnyddiol, a bydd nawr yn canolbwyntio ei ymgyrch barhaus â Llywodraeth y DU. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am amlygu’r mater pwysig hwn.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor hanes y ddeiseb a nododd ganlyniad llwyddiannus y ddeiseb. Diolchodd yr Aelodau i Leeanne Bartley a’i theulu, a phawb sydd wedi ymgysylltu â’r ymchwiliad hwn, ac wedyn cytunodd i gau’r ddeiseb.

 

4.2

P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac yng ngoleuni deddfwriaeth newydd y DU i erlyn o ran defnydd anghyfrifol a pheryglus o gychod dŵr, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn a yw’n bwriadu gwella'r amddiffyniad i fywyd gwyllt ar ein harfordiroedd.

 

4.3

P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau'r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i

ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar y cwestiynau a godwyd yng ngohebiaeth y deisebydd.

 

4.4

P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddi ymgynghoriad Cyngor Caerdydd ar ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth, a chytunodd i baratoi papur cwmpasu i amlinellu cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad ar y mater.