Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/01/2026 - Y Pwyllgor Deisebau
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd
ymddiheuriadau. Gwnaed
datganiadau o fuddiant ar y pwyntiau perthnasol yn y trafodion – Eitemau 2.1,
2.3 a 3.1. |
|
|
Deisebau newydd |
|
|
P-06-1542 Ymrwymo i gefnogi dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Rhys ap
Owen AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A – mae’n adnabod y
Deisebydd ac roedd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch i gadw’r ysgol ar agor. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd eu gobaith y byddai'r ysgol yn llwyddo i sicrhau
cyllid am dair blynedd. Diolchodd y Pwyllgor i'r prif ddeisebydd, yn ogystal â
disgyblion ac athrawon yr ysgol, a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1556 Cyllid gofal plant ar gyfer rhieni sy'n gweithio pan fydd eu plant dros 9 mis oed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi'r adroddiadau a gyhoeddwyd gan Bwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar gymorth gofal plant, a'r
gwahaniaethau rhwng y ddarpariaeth yng Nghymru a Lloegr. Diolchodd y Pwyllgor
i'r deisebwyr am dynnu sylw at fater pwysig iawn, gan nodi y byddai gofal plant
yn cael ei drafod ym maniffestos y pleidiau cyn etholiadau'r Senedd, a
chytunodd i gau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1566 Rhaid i Lywodraeth Cymru ddeddfu i sicrhau bod Gwarchodfeydd Natur Lleol, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Leol Cosmeston, yn cael ystyriaeth lawn. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Vaughan
Gething AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A. Cadarnhaodd na
fyddai’n cymryd rhan wrth i’r Pwyllgor drafod y ddeiseb, gan ei fod yn adnabod
y deisebydd. Roedd yn ymwybodol o'r materion a godwyd, yn enwedig y rheini sy'n
ymwneud â Llyn Cosmeston, sydd o fewn ei etholaeth. Mae wedi ymgymryd â gwaith
achos ar y mater. Datganodd Joel
James AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A. Cysylltwyd ag ef,
hefyd, ynghylch y mater, a oedd o fewn ei ranbarth. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb. Cydnabu’r aelodau gryfder y teimladau ar y mater, a
mynegodd Joel James AS gefnogaeth i’r ddeiseb. Fodd bynnag, nodwyd hefyd fod y
Bil Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
yn destun gwaith craffu ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd
a Seilwaith. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r ddeiseb at y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i godi ymwybyddiaeth,
diolchodd i'r deisebydd am gyflwyno'r mater, a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1563 Rhoi’r gorau i’r cynllun i wneud Cymru yn “genedl noddfa”. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, gydag Aelodau'n mynegi barn groes ar bolisi cenedl lloches
a'i weithrediad. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
|
P-06-1567 Condemnio'r grŵp asgell dde eithafol 'White Vanguard' yng Nghymru, ac ymchwilio iddo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb. Ar y sail bod y materion a godwyd yn rhai a gedwir yn ôl, i
raddau helaeth, tra bod ymateb Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at fwy o gyllid
ar gyfer camau gweithredu datganoledig ar gydlyniant cymdeithasol, cytunodd y
Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1500 Mae angen arian ychwanegol ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl UNSAIN Castell-nedd Port Talbot. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Carolyn
Thomas AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A oherwydd bod
cyfeiriad wedi'i wneud at y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae hi'n cadeirio'r grŵp rhanddeiliaid ar gyfer y Gronfa Twf
Lleol (sef olynydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin). Datganodd Carolyn Thomas AS
hefyd ei bod yn aelod o Uno’r Undeb. Datganodd AS
Vaughan Gething fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A, sef ei fod
wedi cyfarfod â'r deisebydd, a thynnodd sylw at ei gofrestr o fuddiannau gan
ddatgan ei fod yn aelod o sawl undeb llafur, gan gynnwys Unison, ond ddim
cangen Castell-nedd Port Talbot. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymateb gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Cydnabu’r aelodau bryderon parhaus ynghylch y newid o’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin i’r Gronfa Twf Lleol, ac effaith y modd y mae dyraniadau cyllid yn
cael eu gwneud ar gyflogaeth leol. Materion lleol i awdurdodau lleol oedd y
rhain, roedd y Prif Weinidog yn ymwneud â rheoli'r cyfnod pontio, ac roedd yn
debygol o fod yn fater i Aelodau'r Seithfed Senedd a'r pwyllgor pwnc yn y
dyfodol. Yn sgil hyn, diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd a chytunodd i gau'r
ddeiseb. |
|
|
P-06-1522 Cynnull uwchgynhadledd i gyflymu buddsoddi cynaliadwy a moesegol gan bensiynau’r sector cyhoeddus. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd, er bod y materion a godwyd—yn enwedig ynghylch
pensiynau llywodraeth leol—yn bwysig, eu bod yn bennaf y tu allan i gylch
gwaith y Pwyllgor. Cytunwyd i gau'r ddeiseb, ond wrth wneud hynny i anfon
gohebiaeth y deisebydd ymlaen at Bartneriaeth Pensiwn Cymru a rhannu unrhyw
ymateb gyda'r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i nodi'r mater yn ei
adroddiad gwaddol i’w ystyried gan y Seithfed Senedd. |
|
|
P-06-1543 Cadwch uned mân anafiadau Aberteifi ar agor ar benwythnosau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd ymateb y bwrdd iechyd ar yr achos busnes sy'n
cael ei ddatblygu ar gyfer y gwasanaeth dan sylw. Gobeithiwyd y byddai
llwyddiant y cynllun peilot yn cael ei nodi a bod y ddeiseb wedi cyflawni ei
nod. Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd a chau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny,
cytunwyd i anfon gohebiaeth y Bwrdd Iechyd at y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth. |
|
|
P-06-1544 Dylid cymryd camau brys i wella'r GIG yng Ngorllewin Cymru, a mynd i'r afael â'r argyfwng yn Ysbyty Glangwili. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd, yn ei gyfarfod diwethaf, y cytunwyd i gadw'r
ddeiseb ar agor wrth rannu sylwadau'r deisebydd gyda'r bwrdd iechyd. Ar ôl cael
ymateb manwl gan y bwrdd iechyd, yn tynnu sylw at heriau sylweddol, a rhannu
hynny gyda'r deisebydd, cadarnhaodd y Pwyllgor ei benderfyniad i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1545 Rhoi'r gorau i orfodi plant ysgol i ddadwisgo o flaen staff/cyfoedion mewn ystafelloedd newid 'agored'. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a'r ymateb gan y Gweinidog a oedd yn tynnu sylw at
ymgynghoriad ar ddiogelu. Nododd yr Aelodau y byddai gan y deisebydd gyfle i
godi’r materion yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiogelu. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd y Pwyllgor i anfon gohebiaeth bellach y deisebydd at yr Ysgrifennydd
Cabinet i'w hystyried ar gyfer y broses ymgynghori, diolchodd i’r deisebydd,
gydag anogaeth i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a chau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1561 Cau'r bwlch rhwng y rhywiau ym mhêl-droed menywod Cymru: ariannu cynllun cydraddoldeb cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y gwaith sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas
Bêl-droed Cymru i hyrwyddo cyfranogiad menywod a merched mewn pêl-droed.
Cytunodd yr Aelodau i anfon cwestiynau'r deisebydd ymlaen at Gymdeithas
Bêl-droed Cymru, fe wnaethant ganmol y deisebwyr am godi'r mater ar ran menywod
a merched a chydraddoldeb, a chau'r ddeiseb. |
|
|
Papurau i'w nodi |
|
|
P-06-1541 Cynhyrchu Bil Dŵr Glân i Gymru ac Afonydd Cymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr
Aelodau’r papurau. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunwyd ar y
cynnig gweithdrefnol. |
PDF 199 KB