P-06-1542 Ymrwymo i gefnogi dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain
P-06-1542 Ymrwymo i gefnogi dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Glenys Roberts, ar ôl casglu 1,837 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae Llywodraeth
Cymru wedi cyhoeddi ei bod am dynnu ei grant blynyddol o £90,000 yn ôl o fis
Mawrth 2026. Heb y grant hwn, bydd yr ysgol yn cau gan chwalu’r modd mwyaf
effeithiol o hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn Llundain.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Daw’r grant o
strategaeth ‘Cymraeg 2050’, sy’n anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y £90k hwn yn dal i gael ei ddefnyddio
i hyrwyddo'r iaith yn Llundain, ond nid yw wedi rhoi manylion ynghylch sut yn
union. Mae'n amlwg mai y ffordd orau o hyrwyddo unrhyw iaith yw addysgu y
genhedlaeth nesaf o siaradwyr rhugl. Mae'r ysgol yn dod dros effeithiau covid
ac yn tyfu mewn nifer. Nawr yw'r amser i fuddsoddi yn nyfodol yr ysgol, nid i
dorri'r cyllid yn ôl.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Clwyd
- Gogledd Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/01/2026