Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/12/2025 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1537 Mae angen pôl cyhoeddus arnom ar derfynau cyflymder 20 mya gan fod pobl Cymru yn cael eu hanwybyddu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi mai dyma’r mater sydd wedi’i drafod amlaf yn ystod tymor y Senedd hon, yn ôl pob tebyg, a chytunodd nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai’r Pwyllgor eu cymryd yn ei chylch.

Nododd yr Aelodau y gallai unigolion sy'n anfodlon â therfynau cyflymder lleol ddeisebu eu cyngor lleol ac adolygu maniffestos y pleidiau gwleidyddol ynghylch y polisi hwn cyn yr etholiad. Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd cyn cau’r ddeiseb.


Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 14:09 a 14:10 oherwydd anawsterau technegol gydag un o’r meicroffonau.

2.2

P-06-1541 Cynhyrchu Bil Dwr Glân i Gymru ac Afonydd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Cytunwyd nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai’r Pwyllgor eu cymryd, ac eithrio rhannu barn a chynigion deddfwriaethol y deisebwyr â’r Dirprwy Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, o gofio bod Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) yn parhau’n destun gwaith craffu gan y pwyllgor hwnnw. Wedi gwneud hynny, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 

Cytunodd yr Aelodau y dylai ansawdd dŵr a rheoli llifogydd gael eu blaenoriaethu fel themâu i'w cynnwys yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor i'r Senedd nesaf.

2.3

P-06-1549 Cymorth brys ar gyfer perchnogion tai yn Hirwaun y mae concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) wedi effeithio arnynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod grantiau wedi ariannu’r gwaith o ddymchwel ac ailadeiladu cartrefi yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan goncrit cyfnerthedig wedi ei rag-gastio (PRC) yn flaenorol, gan awgrymu y gellid ystyried trefniant tebyg ar gyfer y gwaith o adfer adeiladau sy’n cynnwys RAAC. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i ofyn am fanylion am y rhyngweithio â Llywodraeth y DU ar ddull gweithredu ledled y DU, ac i ofyn am gadarnhad o’r sefyllfa o ran RAAC ar gyfer cartrefi ledled Cymru. Bydd y ddeiseb yn cael ei chadw ar agor wrth i’r Pwyllgor ddisgwyl ymateb

2.4

P-06-1550 Rhowch y cyffur Xonvea ar y rhestr fformiwlâu ar gyfer rheoli cyfog a chwydu yn ystod beichiogrwydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan oedi i gydnabod y menywod a rannodd eu profiadau ingol o Hyperemesis Gravidarum (HG) a'r effaith ar eu teuluoedd.

 

Cytunodd yr Aelodau y dylid ysgrifennu at Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru i'w annog yn gryf i ailystyried y penderfyniad cynharach a pharhau i edrych ar y mater hwn, gan dynnu sylw at dystiolaeth y deisebwyr a phwysleisio na ddylai cost fod y prif ffactor sy’n llywio’r penderfyniad.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu'r holl dystiolaeth a ddarparwyd gan y deisebwyr ar ragnodi Xonvea ac iechyd mamau yn ehangach â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Bydd y ddeiseb yn cael ei chadw ar agor wrth i’r Pwyllgor ddisgwyl ymateb gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

2.5

P-06-1552 Rhoi'r gorau i adeiladu ‘ffermydd’ solar diwydiannol yn agos at adeiladau preswyl ac o fewn ffiniau pentrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi bod ystyriaeth barhaus yn cael ei rhoi i leoliad paneli solar. Mynegodd yr Aelodau eu cydymdeimlad â phryderon y trigolion lleol, ond nodwyd bod hwn yn fater i'w drafod â'r awdurdodau cynllunio priodol. Cytunodd yr Aelodau y dylid tynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at y ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebydd.

2.6

P-06-1553 Cynyddu buddsoddiad a gweithredu mewn rheoli llifogydd ar sail natur i amddiffyn cymunedau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd y dylai llysgenhadon ieuenctid chwarae rhan flaenllaw yn y mater hwn. Nododd yr Aelodau'r ymgysylltiad adeiladol gan y deisebwyr â’r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a chytunwyd y dylid anfon pwyntiau'r deisebwyr ymlaen at yr Ysgrifennydd Cabinet.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i rannu'r ddeiseb â Chadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith er gwybodaeth iddo, ac i gynnwys ansawdd dŵr a rheoli llifogydd fel themâu iw blaenoriaethu yn ei adroddiad etifeddiaeth.

 

Yn ogystal, nododd yr Aelodau y gwaith ymchwil sy’n mynd rhagddo yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor ac Athrofa Ymchwil Coedwigaeth Birmingham, a chytunwyd y dylid sicrhau bod deisebwyr yn cael gwybod am y gwaith hwn.

 

2.7

P-06-1565 Parhau i ariannu Technocamps i ddarparu'r cymorth y mae ysgolion ac athrawon ledled Cymru yn dibynnu arno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr esboniad a gafwyd gan Lywodraeth Cymru fod Prifysgol Abertawe wedi bod yn aflwyddiannus mewn tendr agored. Fodd bynnag, cwestiynodd yr Aelodau sut mae hyn a) yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru a ddeddfwyd ar ei gyfer yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a b) yn ymdrin â'r materion a godwyd gan y deisebydd ynghylch darpariaeth ddwyieithog. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurder gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y materion hyn ac i gadw'r ddeiseb ar agor tra'n disgwyl ymateb.

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei bod wedi cael ei hystyried sawl gwaith. Croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau sylweddol i ymdrin â phryderon y deisebydd. Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebydd, ac i rannu’r gohebiaeth ddiweddaraf â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, o gofio y gallai hwn fod yn faes y byddai’r Pwyllgor hwnnw’n awyddus i fynd ar ei drywydd.

3.2

P-06-1428 Stopiwch y llifogydd yn Cae Nant Terrace, Sgiwen NAWR!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd gydymdeimlad â'r deisebydd a’r unigolion eraill yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Er bod gwaith yn y maes yn ymddangos fel pe bai wedi'i gynllunio, nododd yr Aelodau nad oes disgwyl iddo ddechrau tan 2027 a bod ansicrwydd yn parhau ynghylch cyllid. Cytunodd y Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor, yn y gobaith y bydd y Llywodraeth nesaf yn dyrannu cyllid i gefnogi Castell-nedd Port Talbot a lleddfu'r caledi y mae trigolion lleol yn ei wynebu. Hefyd, nododd yr Aelodau eu penderfyniad cynharach i flaenoriaethu llifogydd fel thema yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor.

3.3

P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 5 Rhagfyr ynghylch buddsoddiad ychwanegol ar gyfer y gamlas, gan roi sicrwydd i'r unigolion sy'n gysylltiedig â hi am y pum mlynedd nesaf. Myfyriodd yr Aelodau ar ba mor fuddiol oedd eu hymweliad diweddar â’r safle, yn ogystal â’r ddadl yn y Senedd. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i longyfarch y deisebwyr ar eu hymgyrch lwyddiannus i sicrhau dyfodol y gamlas, a nododd y Cadeirydd ddiolchiadau’r ymgyrchwyr i’r Aelodau am eu cefnogaeth ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, nodwyd y dylid gofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch dyfodol hirdymor y gamlas. Nodwyd hefyd bod y dyraniad presennol o £400,000 yn swm dros dro ac yn gyfyngedig i un tymor o’r Senedd, ond y byddai'r grŵp gorchwyl a gorffen yn edrych ar y mater ar gyfer y tymor hwy. Bydd y Pwyllgor yn nodi ymateb y Dirprwy Brif Weinidog mewn cyfarfod yn y dyfodol, a bydd Aelodau lleol ar gael os bydd materion ychwanegol yn codi y mae’r deisebwyr am eu trafod.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau. O ran y llythyr at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch deiseb P-06-1291, nodwyd y bydd dadl fer y Cadeirydd ddydd Mercher 10 Rhagfyr yn trafod milfeddygaeth fel proffesiwn.

4.1

P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i'r pryniant corfforaethol o'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papur.

4.2

P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papur.

4.3

P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papur.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

6.

Trafod yr adroddiad drafft - P-06-1510 Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft cyn cytuno arno yn amodol ar rai gwelliannau. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyfieithu a'i gyhoeddi ar ôl toriad y Nadolig. Nodwyd na fyddai ymatebion i'r adroddiad yn dod i law tan yn ddiweddarach yn nhymor y gwanwyn, a chytunodd yr Aelodau i beidio â gofyn am ddadl ar yr adroddiad.