P-06-1565 Parhau i ariannu Technocamps i ddarparu'r cymorth y mae ysgolion ac athrawon ledled Cymru yn dibynnu arno
P-06-1565 Parhau i ariannu Technocamps i ddarparu'r cymorth y mae ysgolion ac athrawon ledled Cymru yn dibynnu arno
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Beti Williams MBE, ar ôl casglu cyfanswm o 4,133 lofnodion
Geiriad y
ddeiseb:
Mae Llywodraeth
Cymru wedi rhoi’r gorau i ariannu prifysgolion Cymru (Technocamps) i gefnogi athrawon
Cymru, ac yn lle hynny mae’n rhoi £1.4m i Brifysgol Efrog ddarparu adnoddau
ar-lein ar gyfer hyn. Mae hyn yn warthus: o ran colli cymorth lleol hanfodol
wyneb yn wyneb i athrawon Cymru, ac o ran yr amarch y mae hyn yn ei ddangos
tuag at Gymru a phrifysgolion Cymru sy'n awyddus i gefnogi eu hysgolion lleol
ond yn colli eu cyllid ar gyfer hyn, sydd wedyn yn cael ei roi - mewn symiau
llawer mwy - i brifysgol yn Lloegr.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Ers 2014, mae
Llywodraeth Cymru wedi ariannu prifysgolion Cymru (Technocamps) i helpu pob
athro ledled Cymru i ymdopi â heriau addysg ddigidol, a hynny drwy ganllawiau a
hyfforddiant dwyieithog wyneb yn wyneb. Mae athrawon yn dal i wynebu heriau
cynyddol anodd oherwydd datblygiadau cyflym ym maes technoleg ddigidol, ac
maent wedi dod yn ddibynnol ar ddealltwriaeth Technocamps o Gwricwlwm Cymru a’u
cymorth ar ei gyfer. Mae llwyddiant llawer o fentrau'r Adran Addysg a Sgiliau
(Fframwaith Cymhwysedd Digidol, cymwysterau DigiTech, micro:bit, prosiectau
seiber a deallusrwydd artiffisial, ac ati) yn dibynnu'n helaeth ar gymorth
Technocamps.
Yn rhyfeddol, dim
ond 7% o gyllid cymorth y Cwricwlwm sy'n mynd i'r Maes Dysgu a Phrofiad
Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a hynny mewn dau grant i sefydliadau yn Lloegr;
mae'r 93% sy'n weddill yn mynd i'r pum Maes Dysgu a Phrofiad arall. Mae rhoi
cyn lleied o gymorth i'r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg - ac
yn enwedig cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol - yn frawychus ac yn
anesboniadwy, gan fod hyn yn arwain at ddim ond dirywiad mewn cyrhaeddiad yn y
pynciau digidol a STEM, ac yn y pen draw dirywiad yn ffyniant economaidd Cymru.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/11/2025