Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/02/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Rhys ab Owen AS
yn ymuno o bell. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Vaughan Gething AS. |
||
|
Deisebau newydd |
||
|
P-06-1488 Sefydlu ‘Cymdeithas Gofal’ i Fynd i’r Afael â’r Argyfwng COVID Hir yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd y Cadeirydd
wedi cyfarfod yn breifat â deisebwyr yn union cyn y cyfarfod ac wedi tynnu sylw
at feysydd a drafodwyd yn y trafodaethau hynny. Nododd yr Aelodau gwmpas eang y
materion a godwyd, a oedd y tu hwnt i’r Pwyllgor Deisebau i’w cymryd ymhellach,
ac a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gael strategaeth
drawslywodraethol. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i
ofyn am strategaeth draws-bortffolio’r Llywodraeth ar fynd i’r afael â COVID
hir, ac yn enwedig ar gyfer y bobl hynny sydd allan o waith neu’n ei chael yn
anodd dychwelyd i’r gwaith oherwydd COVID hir o bosibl heb ddiagnosis, ac i
gadw’r ddeiseb ar agor tra’n aros am ymateb. Byddai copi o'r llythyr yn cael ei
anfon at yr holl Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol er ymwybyddiaeth. Cytunodd
yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at y pwyllgorau pwnc perthnasol yn y Senedd i
ofyn am ragor o wybodaeth am yr hyn yr oeddent yn ei wneud, neu wedi’i
gynllunio ar gyfer COVID hir, gyda’r bwriad o wneud argymhellion i Lywodraeth
Cymru. Byddai Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru yn cael ei
gopïo i’r ohebiaeth, er ymwybyddiaeth. |
||
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
|
P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i ofyn
am eglurhad ar y pwynt a godwyd gan y deisebwyr ynghylch disgresiwn staff ar
wasanaethau arlwyo Trafnidiaeth Cymru, gyda’r bwriad o gau’r ddeiseb wedyn
unwaith y daw’r ymateb hwnnw i law. |
||
|
P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd fod y Prif Weithredwr mewn cyfarfod diweddar rhwng Aelodau Gogledd
Cymru a'r Bwrdd Iechyd wedi nodi y byddai diweddariad pellach ar y sefyllfa yn
cael ei ddarparu'n ysgrifenedig. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at yr
ymatebion diweddaraf gan y Grŵp
Gweithredu Ysbytai a’r
Gymdeithas Ysbytai Cymunedol, ac i anfon copi at Brif Weithredwr y Bwrdd
Iechyd, ac yna gobeithiai weld mwy o eglurder yn y diweddariad nesaf gan y
Bwrdd Iechyd. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor tra'n aros am eu
hymateb. |
||
|
P-06-1405 Mae eisiau ac mae angen uned Iechyd Meddwl â gwelyau i ddynion arnom ni yng Ngogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y wybodaeth fanwl a ddarparwyd gan y Byrddau Iechyd mewn ymateb i gais
blaenorol am ddarparu cymorth iechyd meddwl acíwt 24/7. Roedd y data yn dangos
ystod o arferion ar draws gwahanol rannau o Gymru. Nodwyd, ers yr ystyriaeth
ddiwethaf, bod cynnydd yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru o ran datblygu
Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a Strategaeth Atal Hunanladdiad a
Hunan-niwed, ac y gellid bwydo sylwadau'r deisebydd i'r broses honno. Felly,
cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i dynnu sylw at y
sylwadau hynny a cheisio eglurhad ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r
strategaethau hynny. Cytunwyd i gadw'r ddeiseb ar agor tra’n aros ymateb. |
||
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Cafodd y papurau
eu nodi. |
||
|
P-06-1449 Dylid dynodi Dyffryn Tywi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dogfennau ategol: |
||
|
P-06-1467 Cyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu Adenomyosis at y rhestr A i Y ar ei wefan 111 Dogfennau ategol: |
||
|
P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) Dogfennau ategol: |
||
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
||
(14.30 - 15.00) |
Trafodaeth Cynllunio Strategol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr
Aelodau bapur ar flaenoriaethau rhaglen waith ar gyfer gweddill y Chweched
Senedd, gan gynnwys: ffocws gwaith ymchwiliad pellach yn yr amser sydd ar gael;
adolygu darpariaethau’r Rheol Sefydlog ar gyfer y broses ddeisebu cyn y
Seithfed Senedd; materion ymgysylltu â'r cyhoedd; ac adrodd ar etifeddiaeth.
Rhannodd yr Aelodau eu barn a chytunwyd i drafod papur opsiynau pellach mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
PDF 196 KB