Agenda item

P-06-1405 Mae eisiau ac mae angen uned Iechyd Meddwl â gwelyau i ddynion arnom ni yng Ngogledd Cymru

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth fanwl a ddarparwyd gan y Byrddau Iechyd mewn ymateb i gais blaenorol am ddarparu cymorth iechyd meddwl acíwt 24/7. Roedd y data yn dangos ystod o arferion ar draws gwahanol rannau o Gymru. Nodwyd, ers yr ystyriaeth ddiwethaf, bod cynnydd yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru o ran datblygu Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, ac y gellid bwydo sylwadau'r deisebydd i'r broses honno. Felly, cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i dynnu sylw at y sylwadau hynny a cheisio eglurhad ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r strategaethau hynny. Cytunwyd i gadw'r ddeiseb ar agor tra’n aros ymateb.

 

Dogfennau ategol: