P-06-1467 Cyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu Adenomyosis at y rhestr A i Y ar ei wefan 111
P-06-1467 Cyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu Adenomyosis at y rhestr A i Y ar ei wefan 111
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Dee Montague-Coast, ar ôl casglu 324 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae mis Ebrill yn
Fis Ymwybyddiaeth o Adenomyosis ac mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) am
weld yr ymwybyddiaeth honno’n ymestyn i GIG Cymru. Adenomyosis yw un o'r
cyflyrau iechyd mislif mwyaf cyffredin – ond nid yw llawer erioed wedi clywed
amdano.
Yn wahanol i
wefannau GIG Lloegr a GIG yr Alban, nid yw gwefan 111 GIG Cymru yn cynnwys
adenomyosis ar ei wefan A i Y, er gwaetha’r ffaith bod y cyflwr yn effeithio ar
fwy nag 1 o bob 10 o fenywod a phobl â chroth – sef yr un nifer â menywod sy'n
byw gyda diabetes neu asthma!
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae FTWW yn galw
ar y Senedd i gyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu adenomyosis at y rhestr A i Y o
gyflyrau ar ei wefan 111, a hynny i sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru yr un
wybodaeth ddibynadwy – yn Gymraeg a Saesneg – â chleifion yn Lloegr neu’r Alban.
Mae adenomyosis
yn digwydd pan fydd leinin y groth yn dechrau tyfu i mewn i'r cyhyr yn wal y
groth. Mae'r diagnosis ohono’n fwy cyffredin ymhlith menywod dros 30 oed, ond
gall effeithio ar unrhyw un sy'n cael mislif. Gall symptomau gynnwys mislifoedd
trwm a phoenus iawn, chwyddo a theimlad o drymder neu lawnder yn y bol, poen
cefn, poen yn rhan uchaf y goes, blinder, a rhyw poenus.
Mae’n gyffredin
ei weld ochr yn ochr ag endometriosis. Yn aml, pan fydd cleifion yn nodi bod
symptomau yn lleddfu ar ôl hysterectomi, y tebyg yw mai adenomyosis oedd ar fai
– ond nid oedd gan lawer o gleifion unrhyw syniad bod y cyflwr arnyn nhw ac nid
ydynt yn cael unrhyw wybodaeth amdano. Rydym am weld hynny’n newid!

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Dwyrain
Casnewydd
>>>Dwyrain
De Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/08/2024