Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/05/2024 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS

 

Roedd Rhys ab Owen AS yn absennol.

 

(14.00 - 14.45)

2.

Sesiwn dystiolaeth Panel 1 - P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Dr Sue Patterson, Llywydd Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)

Dr Julia Mewes, The Mewes Vets

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Sue Paterson, Llywydd Coleg Brenhinol y Milfeddygon a Dr Julia Mewes, o Filfeddygon Mewes.

 

(14.45)

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1411 Rwy'n gwrthwynebu 'Bil Diwygio'r Senedd' Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 18 Medi 2023, yn dod yn gyfraith.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Bil wedi bod yn destun craffu helaeth wrth iddo fynd drwy’r Senedd. Fodd bynnag, mae’r Senedd bellach wedi’i basio ac mae’n aros am Gydsyniad Brenhinol i ddod yn Ddeddf. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau nad oes unrhyw beth arall y gall y Pwyllgor ei wneud a chaeodd y ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd.

 

3.2

P-06-1426 Dylid gosod goleuadau traffig wrth gylchfan McDonald's ym Mhont-y-pwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Heddlu Gwent yn gofyn am y data blynyddol diweddaraf ynghylch digwyddiadau ar y gylchfan dan sylw i ystyried a yw'r mesur diogelwch a roddwyd ar waith wedi bod yn effeithiol.

 

3.3

P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

  • Y Pwyllgor Busnes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater ar frys;
  • Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i dynnu sylw at y ddeiseb;

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i dynnu sylw at y ddeiseb ac i ofyn iddynt ei hystyried wrth graffu ar y gyllideb atodol yn ddiweddarach y mis hwn, a chyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ddechrau mis Gorffennaf.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau hanes y ddeiseb a’r ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar 1 Mai 2024. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb ond parhau i gefnogi'r ymgyrchwyr yn eu rôl fel Aelodau unigol o'r Senedd.

4.2

P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar 8 Mai 2024.

 

Yng ngoleuni’r ymateb manwl helaeth a gafwyd gan Diwygio ADY yng Nghymru, cytunodd yr Aelodau i’w anfon ymlaen at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am atebion i’r cwestiynau penodol a godwyd, gan gynnwys sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu gweithio gydag ymgyrchwyr fel Diwygio ADY yng Nghymru.

 

4.3

P-06-1395 Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

·        Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn ceisio atebion i'r cwestiynau penodol a godwyd yng ngohebiaeth y deisebwyr; 

 Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau i wneud gwaith ar y mater.

 

(15.00 - 15.45)

5.

Sesiwn dystiolaeth Panel 2 - Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Caroline Allen, Prif Swyddog Milfeddygol RSPCA Cymru

 

Carlie Power, Cats Matter

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Caroline Allen, Prif Swyddog Milfeddygol RSPCA Cymru a Carlie Power o Cats Matter.

 

(15.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod y dystiolaeth - P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiynau tystiolaeth.

 

8.

Trafod deiseb y flwyddyn

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau enwebiadau posibl ar gyfer deiseb y flwyddyn.