P-06-1395 Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent
P-06-1395 Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Deborah Joanne Munton, ar ôl casglu 4,567 lofnodion ar lein a 1,146 lofnodion
ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 5,713 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Gwastadeddau Gwent yn dirwedd hynafol sy’n gyfoethog o ran diwylliant ac sy’n
bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, hamdden, lliniaru effeithiau llifogydd, storio
carbon a chynhyrchu bwyd. Mae bellach yn wynebu cynigion i ddatblygu sawl
cynllun ynni solar enfawr cyfagos, ymhlith cynigion datblygu eraill. Ni all
system gynllunio Cymru yn ei ffurf bresennol reoli datblygiadau o’r fath, a
byddai’r dinistr y byddai’r datblygiadau hyn yn ei achosi o dan y trefniadau
presennol yn rhoi diwedd ar y gwlyptir hardd, bregus a chymhleth hwn.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
pwysau cynyddol am ddatblygiadau ynni solar ar raddfa gyflym iawn, yn ogystal â
datblygiadau eraill (fel parciau busnes), ar SoDdGA Gwastadeddau Gwent, yn
ogystal â methiant systemig a hirsefydlog i'w reoli. Er enghraifft, mae’r
ymdrechion i symud neu hyd yn oed liniaru’r difrod difrifol a achoswyd gan yr
unig fferm solar a adeiladwyd yno hyd yma (yn Llanwern), drwy ddefnyddio amodau
cynllunio, wedi methu. Mae’n ddigon posibl bod lefelau llygredd yn y safle ac
yn agos ato wedi cynyddu. Mae cornchwiglod, aderyn prin sy'n nythu yng Nghymru,
wedi'u gyrru i ddifodiant yno. Newid hinsawdd yw’r prif fygythiad i
fioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae angen gweithredu ar y cyd ym mhob maes polisi,
gan gynnwys ynni adnewyddadwy – ond ni ddylai hyn ddod ar draul bioamrywiaeth.
Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn drysorau: Maent yn safleoedd o
bwysigrwydd ledled y DU sydd wedi’u dynodi’n statudol ar gyfer bywyd gwyllt.
Gan gwmpasu dim ond 12 y cant o dir Gymru, ni ddylid eu targedu ar gyfer
datblygiadau adeiledig mawr, pan fo miloedd o hectarau o dir a thoeau ledled
Gwent a Chymru yn llawer mwy addas.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2024