Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriad gan Joel James AS. Roedd Altaf
Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru. Yr Athro Abigail
Marks (Athro Dyfodol Gwaith), Prifysgol Newcastle Will Stronge
(Cyfarwyddwr Ymchwil), Autonomy Louisa Neale (Ysgogydd
Arweiniol Newid Pobl a Diwylliant), Comisynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cheney Hamilton (Prif
Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd), sefydliad Find Your Flex Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Cheney Hamilton, Will Stronge, Louisa Neale a’r Athro
Abigail Marks. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1281 Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Twr Gwylio a'r Hen Harbwr yn y Barri. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y pryderon cynyddol am gyflwr ein hafonydd a’r
camau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan bwyllgorau’r Senedd, mewn cyfarfodydd
llawn, gan Lywodraeth Cymru a Dŵr
Cymru. Cytunodd yr
Aelodau i annog y deisebwyr i fynd ar drywydd y broses sydd ar waith gan
Lywodraeth Cymru i bobl wneud cais i ddynodi ardaloedd newydd o ddyfroedd
ymdrochi, a chytunwyd i rannu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y
Pwyllgor Newid Hinsawdd. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb
a diolch i’r deisebydd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, er y cytunodd yr Aelodau fod hwn
yn fater pwysig iawn, maent yn derbyn bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud
gwaith i wella'r strategaeth gwrth-fwlio.
Cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gallant ei wneud fel Pwyllgor,
ond nodwyd y gallant godi ymwybyddiaeth fel unigolion o'r mater pwysig hwn a'r
arfer da a rennir. Wrth gau’r ddeiseb, canmolodd yr Aelodau’r bobl ifanc am eu
hymrwymiad a’u hymgysylltiad â’r Pwyllgor Deisebau drwy gydol y gwaith, gan
gynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, a gwnaeth y Pwyllgor eu llongyfarch
ar y gwaith y maent yn ei wneud yn eu cymuned eu hunain. |
|
P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch i CCAUC am ei
ymatebion trylwyr i'r Pwyllgor a nododd, er bod gweithio o bell yn cynnig
manteision, fod anfanteision i eraill hefyd. Mae’n pwysleisio y dylai prifysgolion
weithio gyda'u myfyrwyr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion yr holl fyfyrwyr.
Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1268 Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi'u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy'n rhoi unigolion dan anfantais annheg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi
bod yn glir ei bod yn credu nad yw’r statws ardal wedi’i rhag-asesu yn rhoi
unigolion dan anfantais, ac rydym hefyd wedi cael sicrwydd gan y Gweinidog y
bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru’n ddiweddarach eleni, cytunodd yr Aelodau
i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y cafodd ei thrafod yn angerddol yn y Senedd ar 29
Mehefin, ac mae’n cydnabod nad dyma’r ddadl gyntaf nac yn debygol o fod y tro
olaf i’r mater pwysig hwn ddod gerbron y Senedd. Fodd bynnag, nid oes llawer
mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, gan ei fod wedi cynnal dadl ar y
mater hwn eisoes. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd
am godi’r mater pwysig. |
|
P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er na fu dim cynnydd o ran dod o hyd i gartref
parhaol ar gyfer y casgliad, ei fod gan Archifau Morgannwg ar hyn o bryd a bod
modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld o hyd. Yn sgil hyn, nid oes llawer mwy y
gall y Pwyllgor ei wneud ar y mater, felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb
a diolch i’r deisebydd. Wrth wneud hynny,
cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant am ei
hymateb meddylgar a dymuno'n dda iddi wrth chwilio am gartref tymor hir ar
gyfer y casgliad yn y dyfodol. |
|
P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Adroddiad drafft - P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Derbyniodd y
Pwyllgor yr adroddiad gyda rhai newidiadau mân. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunodd i ddrafftio adroddiad byr ar y
ddeiseb. |
|
Dulliau o weithio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Myfyriodd y
Pwyllgor ar ei waith eleni a thrafododd y camau nesaf ar gyfer tymor yr hydref. |