Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol, a nododd fod trefn yr agenda wedi newid er mwyn darparu ar gyfer
argaeledd tystion, a olygai y byddai'r Pwyllgor bellach yn cyfarfod yn
gyhoeddus ar gyfer y ddwy eitem gyntaf. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas AS. |
|
(09.30 - 10.15) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd: Sesiwn dystiolaeth gydag Aelod o Bwyllgor Senedd Ewrop ar Ddiwylliant ac Addysg (6) Laurence Farreng
ASE, Aelod o Bwyllgor Senedd Ewrop ar Ddiwylliant ac Addysg Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Laurence Farreng
ASE, Aelod o Bwyllgor Senedd Ewrop ar Ddiwylliant ac Addysg. |
|
(10.15) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddiwygio ei adroddiad drafft ar
Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru i adlewyrchu tystiolaeth
ysgrifenedig a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. |
|
Fframwaith Windsor a Model Gweithredu Targed y Ffin Dogfennau ategol: |
||
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol:
|
||
Honiadau am fwlio yn S4C Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 Dogfennau ategol:
|
||
Blwyddyn Cymru ac India Dogfennau ategol: |
||
Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 6, 7, 8, 10, 11 a 12. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.15 - 10.25) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd: Cyflwyno canfyddiadau ymgysylltu â dinasyddion Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Oherwydd materion technegol, nid oedd modd i’r
Pwyllgor gael cyflwyniad ar ganfyddiadau ymgysylltu â dinasyddion a bydd yn
ceisio aildrefnu'r eitem hon ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(10.25 - 10.35) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.45 - 11.15) |
Hawliau darlledu rygbi’r Chwe Gwlad: Trafod yr adroddiad drafft Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
i dderbyn mân newidiadau drwy e-bost. |
|
(11.15 - 11.45) |
Trafod y flaenraglen waith ar gyfer haf 2024 Blaenraglen waith
haf 2024 Cylch gorchwyl ar
gyfer ymchwiliad undydd ar ddarpariaeth addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer haf
2024 a chytunwyd ar y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad undydd ym maes
datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16. 8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y flaenraglen waith
ehangach ar gyfer haf 2024 eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(12.00 - 13.00) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r UE: Sesiwn dystiolaeth gydag arbenigwyr Brexit (7) Yr Athro
Catherine Barnard, Prifysgol Caergrawnt Dr Charlotte
Faucher, Prifysgol Bryste Cofnodion: 9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Catherine
Barnard, Prifysgol Caergrawnt, a Dr Charlotte Faucher, Prifysgol Bryste. |
|
(13.00 - 13.10) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(13.10 - 13.20) |
Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP): Dadansoddiadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 11.1 Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiadau Llywodraeth y
DU a Llywodraeth Cymru o'r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer
Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP) a chytunodd i gadw golwg ar ddatblygiadau. |
|
(13.20 - 13.30) |
Cytundebau Rhyngwladol: Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu’r Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 12.1 Trafododd y Pwyllgor Gonfensiwn UNESCO ar Ddiogelu
Cytundebau Rhyngwladol Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol a chytunwyd i
gadw golwg ar y mater. 12.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu'r ohebiaeth gan
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU â Phwyllgor y Senedd ar Ddeddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ac â Phwyllgor Senedd y DU ar Gytundebau
Rhyngwladol. |