Hawliau darlledu rygbi'r Chwe Gwlad

Hawliau darlledu rygbi'r Chwe Gwlad

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i hawliau darlledu rygbi’r Chwe Gwlad.

 

Mae Deddf Darlledu 1996 yn rhoi’r pŵer ir Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i lunio rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon o ddiddordeb cenedlaethol. Ystyr hyn yw bod yn rhaid ir hawliau darlledu ir digwyddiadau hyn gael eu cynnig ir prif ddarlledwyr daearol rhad ac am ddim ar delerau teg a rhesymol. Y nod yw sicrhau bod y digwyddiadau ar gael i bob gwyliwr teledu.

 

Mae’r Bil Cyfryngau Drafft yn cynnig newid y gwasanaethau (h.y. darlledwyr) sy’n gymwys o dan y drefn digwyddiadau rhestredig i gynnwys S4C, ond heb newid cwmpas na natur y warchodaeth a ddarperir i ddigwyddiadau rhestredig.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried i ba raddau y mae’r drefn chwaraeon rhestredig bresennol yn addas i Gymru, gan gynnwys materion fel:

>>>> 

>>>A ddylid symud Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad o Grŵp B i Grŵp A ar y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon o ddiddordeb cenedlaethol, gan olygu y dylid cynnig darllediad byw llawn i ddarlledwyr daearol rhad ac am ddim;

>>>Yr effaith y mae darlledu digwyddiadau chwaraeon poblogaidd ar wasanaethau tanysgrifio yn unig yn ei chael ar gynulleidfaoedd;

>>>Yr effaith y mae cynnwys digwyddiadau chwaraeon ar y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon o “ddiddordeb cenedlaethol” yn ei chael ar gyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol fel Undeb Rygbi Cymru.

>>>Yr effaith y mae darlledu digwyddiadau chwaraeon poblogaidd ar wasanaethau tanysgrifio yn unig yn ei chael ar gyfranogiad chwaraeon;

>>>Yr effaith y mae cynnwys digwyddiadau chwaraeon ar y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon o “ddiddordeb cenedlaethol” yn ei chael ar gyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol fel Undeb Rygbi Cymru.

<<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/02/2024

Dogfennau