Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel
Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel
Mae’r DU wedi
cytuno i ymuno â bloc masnachu o’r enw Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y
Môr Tawel. Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys 11 o wladwriaethau yn ardal Cefnfor
India a’r Môr Tawel – Awstralia, Brunei, Canada, Chile, Japan, Malaysia,
Mecsico, Seland Newydd, Periw, Singapore a Fietnam. Disgwylir y bydd y
Bartneriaeth yn dod i rym yn ail hanner 2024 ar ôl gwaith craffu seneddol a
deddfwriaeth i’w rhoi ar waith.
Bydd y Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn
edrych ar safbwyntiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y DU yn dod yn
aelod o’r Bartneriaeth.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/03/2024