Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.40) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS a Tom
Giffard AS, ac roedd Joel James AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Tom Giffard
AS. |
|
(10.40 - 11.25) |
Diwylliant a’r berthynas newydd â’r UE: sesiwn dystiolaeth gyda deddfwrfeydd eraill (1) Kevin Brennan MP,
Tŷ’r
Cyffredin, Senedd y DU Y Farwnes Bull, Tŷ’r Arglwyddi, Senedd y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Farwnes Bull. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kevin Brennan AS. |
|
(11.25) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor
Celfyddydau Cymru a National Theatre Wales ynghylch yr Adolygiad Buddsoddi. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog
y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch effaith y gostyngiadau yn y
gyllideb ar gyrff hyd braich. 3.4 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ynghylch y Gofrestr
Asedau Tanddaearol Genedlaethol. |
|
Baden-Württemberg: Cyd-ddatganiad Cydweithredu Dogfennau ategol: |
||
Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Dogfennau ategol: |
||
Cyngor Celfyddydau Cymru: Adolygiad Buddsoddi Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 Dogfennau ategol:
|
||
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Dogfennau ategol: |
||
Cyhuddiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru Dogfennau ategol: |
||
(11.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 7, 8 a 10 yn ystod y cyfarfod heddiw Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.25 - 11.45) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE: trafod y tystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.45 - 12.00) |
Hawliau darlledu rygbi'r Chwe Gwlad: trafod y materion allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol cyn cytuno
i ddychwelyd at y pwnc yn y cyfarfod nesaf, a drefnwyd ar gyfer 28 Chwefror
2024. |
|
(12.00 - 12.10) |
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol: trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft cyn cytuno
arno. |
|
(12.10 - 12.15) |
Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer
tymor y gwanwyn 2024 cyn cytuno arni. |
|
(13.00 - 14.00) |
Diwylliant a’r berthynas newydd â’r UE: sesiwn dystiolaeth gyda chyrff ambarél (2) Eluned Haf,
Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Tom Kiehl, Prif
Weithredwr Dros Dro, UK Music Ruth Cocks,
Cyfarwyddwr, British Council Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; UK Music; a British Council Cymru. 9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at UK Music i ofyn
am ragor o wybodaeth yn gysylltiedig â’r sesiwn. |
|
(14.00 - 14.15) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE: trafod y tystiolaeth Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |