Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/10/2021 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond nododd y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Heledd Fychan AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Heledd Fychan AS ddatganiad o fuddiant perthnasol. Mae hi'n adnabod Rhuanedd Richards yn bersonol

 

(09.30-10.10)

2.

Dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus: Ofcom

Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoleiddio yng Nghymru

 

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ofcom.

 

(10.20-11.20)

3.

Dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus: Darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus

Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Rhaglenni a Gwasanaethau, BBC Cymru

Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Cymru

Owen Evans, Prif Weithredwr, S4C

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BBC Cymru, ITV Cymru, a S4C.

 

(11.30-12.20)

4.

Dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus: Academyddion

Caitriona Noonan, Prifysgol Caerdydd

Hywel Wiliam, Cadeirydd, Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru

Ruth McElroy, Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru

Gareth Williams, TAC

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru, Prifysgol De Cymru, a TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru).

 

(12.20)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Cafodd y papurau eu nodi.

 

(12.20)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.20-12.30)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i:

 

·       ysgrifennu at S4C ac Ofcom ynghylch darllediadau rhad ac am ddim o gemau rygbi rhyngwladol yr hydref Cymru;

 

·       gwahodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol; ac i

 

·       lunio adroddiad byr ar ddyfodol y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

 

5a

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Llywydd ynghylch cais am gyfarfodydd ychwanegol

Dogfennau ategol:

5b

Llythyr gan Weinidog yr Economi at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Swyddi Rheoli Ffiniau

Dogfennau ategol:

5c

Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch effaith gwerthu Bad Wolf

Dogfennau ategol:

5d

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Prif Weinidog ynghylch gwaith craffu gweinidogol ar gysylltiadau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

5e

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gefnogaeth i'r Gymraeg

Dogfennau ategol:

5f

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch cefnogaeth i'r Gymraeg a gwaith craffu blynyddol

Dogfennau ategol: