Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfeirnod: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/01/2025 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

 

(13.30-15.00)

2.

Gwaith craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026

Jane Hutt AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Amelia John, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd, Llywodraeth Cymru

Lorna Hall, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Llywodraeth Cymru

Andrew Charles, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymunedau Cydlynus, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan y canlynol:

 

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Amelia John, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd

Lorna Hall, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Llywodraeth Cymru

Andrew Charles, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymunedau Cydlynus, Llywodraeth Cymru

 

 

(15.00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

3.1

Gohebiaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i'r Bwlch Cyflogaeth Anabledd

Dogfennau ategol:

3.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Dynol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch hyrwyddo Hawliau Dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

3.3

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip at y Cadeirydd ynghylch Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Dogfennau ategol:

3.4

Gohebiaeth gan British Gas at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad dilynol i dlodi tanwydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

3.5

Gohebiaeth gan Gofal Canser Tenovus at y Cadeirydd ynghylch y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr

Dogfennau ategol:

3.6

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu pobl ifanc

Dogfennau ategol:

3.7

Gohebiaeth at y Cadeirydd gan y Llywydd ynghylch penderfyniad Fforwm y Cadeiryddion ar gyrff rhyngseneddol

Dogfennau ategol:

3.8

Gohebiaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol

Dogfennau ategol:

3.9

Gohebiaeth at Gadeirydd Cyngor Sir Caerdydd ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i'r Bwlch Cyflogaeth Anabledd

Dogfennau ategol:

(15.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(iv) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.

 

5.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth, gan gytuno i ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ofyn am ffyrdd y mae wedi gallu lleihau gwariant ar y gyllideb.

 

Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ofyn iddo ystyried gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ystod ei sesiwn graffu ar y Gyllideb Ddrafft ynghylch uwchraddio’r trothwyon cymhwystra a gwerth arian parod rhai budd-daliadau Cymru – megis y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, y Grant Hanfodion Ysgol a Phrydau Ysgol am Ddim i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd – er mwyn sicrhau eu bod yn unol â chwyddiant.