Fforwm Rhyngseneddol
Y Fforwm
Rhyngseneddol yw olynydd y Fforwm
Rhyngseneddol ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a ddarparodd fforwm ar gyfer
craffu ar y cyd ar ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae'n dwyn ynghyd
Cadeiryddion, Cynullwyr a chynrychiolwyr Pwyllgorau sy'n craffu ar
fframweithiau newydd y tu hwnt i Brexit yn Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd
Iwerddon, y Senedd, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ'r
Arglwyddi.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad mynychu cyfarfodydd y fforwm yn rheolaidd.
Prif ddibenion y
Fforwm Rhyngseneddol yw darparu mecanwaith at ddibenion cynnal deialog a
chydweithrediad rhwng seneddwyr o’r seneddau a’r cynulliadau wrth fynd i’r
afael â heriau cyffredin o ran gwaith craffu sy’n deillio o’r trefniadau
cyfansoddiadol newydd ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, ac i gydweithredu er mwyn
canfod atebion i'w goresgyn. Bydd hyn yn cynnwys datblygu dull rhyngseneddol
gyda'r nod o sicrhau lefelau priodol o atebolrwydd a thryloywder ar ran y priod
Weinidogion, mewn amrywiaeth o feysydd y gallai fod arnyn nhw angen prosesau
newydd at ddibenion gwaith craffu, mewn llawer o achosion.
Mae'r Fforwm
Rhyngseneddol yn darparu lle ar y cyd i rannu gwybodaeth am waith craffu pob
senedd o'i gweithrediaeth, ac nid yw’n disodli’r gwaith hwnnw. Bydd
blaenoriaethau cychwynnol y fforwm yn cynnwys trosolwg o’r canlynol:
- Cysylltiadau rhynglywodraethol, gan gynnwys
cytuno ar adroddiad blynyddol ar y cyd ar fynd i'r afael â heriau
cyffredin ynghylch gwaith craffu;
- Rhoi cytundebau rhyngwladol ar waith, gan
gynnwys y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, y Cytundeb Ymadael a Phrotocol
Iwerddon/Gogledd Iwerddon;
- Marchnad fewnol y DU gan gynnwys Deddf
Marchnad Fewnol y DU a Fframweithiau Cyffredin;
- Effaith y trefniadau cyfansoddiadol newydd ar
y broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys y defnydd o bwerau eilaidd a’r
broses cydsyniad deddfwriaethol.
Bydd y Fforwm Rhyngseneddol
yn ceisio gwella gwaith craffu yn y meysydd hyn drwy gyfnewid gwybodaeth ac
arfer gorau ar lefel seneddol, a thrwy geisio dull cyson o wella atebolrwydd ar
lefel Weinidogol a rhynglywodraethol fel ei gilydd.
Ar 25 Chwefror
2022, fe wnaeth Cadeiryddion, Cynullwyr ac Aelodau’r pwyllgorau perthnasol yn
Senedd yr Alban, Senedd Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, gyfarfod yn Nhŷ’r Arglwyddi ar gyfer cyfarfod cyntaf y
Fforwm Rhyngseneddol, yn dilyn gwahoddiad gan yr Arglwydd Lefarydd. Mae Datganiad
ar y Cyd ar gael isod.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2022
Dogfennau