Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/06/2024 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(11:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(11:00-12:30)

2.

Gwaith craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Heledd Morgan, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Jacob Ellis, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:

 

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Heledd Morgan, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Jacob Ellis, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

 

(12:30)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

3.1

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch rheoliadau i ychwanegu wyth corff cyhoeddus ychwanegol at adran 6(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

3.2

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo

Dogfennau ategol:

3.3

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Cadeirydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Dysgu a Gwella Parhaus 2023-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Dogfennau ategol:

3.4

Gohebiaeth rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor: “Sut y mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig mewn trais ar sail rhywedd”

Dogfennau ategol:

3.5

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF

Dogfennau ategol:

3.6

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Prif Weinidog ynghylch y Cytundeb rhwng y DU a Denmarc ar gyfranogiad mewn etholiadau penodol gan wladolion o’r naill wlad sy’n preswylio yn nhiriogaeth y llall

Dogfennau ategol:

3.7

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Stephen Crabb AS ynghylch Carchar y Parc

Dogfennau ategol:

3.8

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Cadeirydd ynghylch ymgysylltu mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26

Dogfennau ategol:

3.9

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes at y Cadeirydd ynghylch cylchoedd gorchwyl y Pwyllgorau

Dogfennau ategol:

3.10

Gohebiaeth rhwng y Comisiynwyr Tân a’r Cadeirydd ynghylch cais am eglurhad gan yr ymchwiliad gwasanaethau tân ac achub

Dogfennau ategol:

3.11

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ynghylch gwasanaethau tân ac achub a chamau gweithredu yn dilyn y cyfarfod ar 22 Ebrill, 22 Mai 2024

Dogfennau ategol:

3.12

Gohebiaeth rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Cadeirydd ynghylch cais am eglurhad gan yr ymchwiliad gwasanaethau tân ac achub

Dogfennau ategol:

3.13

Gohebiaeth gan grŵp cynghori arbenigol ar ofal plant yng Nghymru at y Cadeirydd ynghylch dyfodol darpariaeth gofal plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(12:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.

 

(12:30-12:45)

5.

Gwaith craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a glywyd heddiw.

 

(12.45 - 13.15)

6.

Llywodraethiant y Gwasanaethau Tân ac Achub: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft.