Y Gwasanaethau Tân ac Achub

Y Gwasanaethau Tân ac Achub

Y cefndir

 

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i drefniadau llywodraethu’r Gwasanaethau Tân ac Achub, gan gynnwys sut y gellid eu gwella.

 

Er i’r ymchwiliad gael ei ysgogi yn rhannol gan bryderon y cyhoedd yn dilyn yr Adolygiad Diwylliant o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, nid rôl y Pwyllgor yw edrych ar honiadau penodol, achosion unigol nac enghreifftiau o gamymddwyn posibl.

 

Cylch gorchwyl

 

Cylch gorchwyl llawn yr ymchwiliad yw ystyried y canlynol:

>>>> 

>>>I ba raddau y cyfrannodd trefniadau llywodraethu at y methiannau a nodwyd yn adolygiad diwylliant o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

>>>Capasiti a gallu’r Awdurdodau Tân ac Achub i newid y trefniadau rheoli a’r arferion gweithio sydd wedi cael eu nodi’n feysydd sy’n peri pryder, a pharodrwydd yr awdurdodau i sicrhau newid diwylliannol.

>>>Methiant ymdrechion blaenorol i ddiwygio, gan gynnwys edrych ar yr hyn a ataliodd adolygiadau blaenorol rhag cael eu gweithredu, yn benodol y Comisiwn Llywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a alwodd am i’r Awdurdodau Tân ac Achub gael eu hailgyfansoddi.

>>>Sut mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2018 ynghylch diwygio’r Gwasanaethau Tân ac Achub wedi llywio trefniadau llywodraethu ac arferion gweithio presennol. I ba raddau yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r pryderon a nodwyd yn ei hymgynghoriad a’i hadroddiad cynnydd yn 2019.

>>>Y newidiadau sydd eu hangen i gryfhau’r trefniadau presennol ar gyfer arolygu ac archwilio, gan gynnwys rôl cyrff allanol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

>>>Effeithiolrwydd y mecanweithiau ar gyfer sicrhau bod tystiolaeth a gesglir gan Brif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru mewn arolygiadau ac adolygiadau o Awdurdodau Tân ac Achub yn cael ei defnyddio a’i bod yn cael ei gweithredu, a'r trefniadau ar gyfer dysgu ar y cyd sy’n deillio o arolygiadau o’r Awdurdodau a gynhelir yng ngwledydd eraill y DU, yn benodol yn Lloegr, i lywio polisi.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

 

Bwriedir i hwn fod yn ymchwiliad â ffocws, sydd wedi’i gynnal yn gyflym, a bydd y gwaith o gasglu tystiolaeth yn digwydd yn ystod Tymor y Gwanwyn 2024.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/02/2024