Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. 1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.3 Ni chafwyd ymddiheuriadau gan yr Aelodau. Datganodd
Jenny Rathbone AS a Sarah Murphy AS fuddiant ar gyfer eitem 4 gan fod y ddwy yn
aelodau o undebau credyd. |
|
(13.15 - 14.15) |
Dyled a'r pandemig - gwasanaethau cyhoeddus Rob Simkins,
Rheolwr Ymgyrchoedd Shelter Cymru Will Henson,
Rheolwr Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru Lisa Hayward,
Swyddog Polisi Diwygio Lles Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Will Henson, Cartrefi
Cymunedol Cymru. 2.2 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r
pandemig. 2.3 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Shelter Cymru:
Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
|
|
(14.30 - 15.15) |
Dyled a'r pandemig - effaith ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig Lee Tiratira,
Arweinydd Tîm Ieuenctid a Gweithiwr Prosiect BME CYP, Lleiafrifoedd Ethnig a
Thîm Cymorth Ieuenctid (EYST) Cerys Furlong,
Prif Weithredwr Chwarae Teg Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r
pandemig. 3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Chwarae Teg:
|
|
(15.30 - 16.15) |
Dyled a'r pandemig - credyd fforddiadwy Claire Savage,
Swyddog Polisi Undebau Credyd Cymru Sara Burch,
Rheolwr Undeb Credyd Gateway Daniel
Arrowsmith, Cymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig Karen Davies,
Prif Weithredwr Purple Shoots Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r
pandemig. |
|
(16.30 - 17.00) |
Dyled a'r pandemig - melinau trafod Steffan Evans,
Swyddog Polisi ac Ymchwil Sefydliad Bevan Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r
pandemig. |
|
(17.00) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gender Network ynghylch cydraddoldeb rhywiol - 15 Medi 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch diogelu gwybodaeth ddirgel - 21 Medi 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - 22 Medi. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.3a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.4a Nododd yr Aelodau yr ymateb i'r ymgynghoriad. |
||
(17.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(17.00 - 17.15) |
Ystyried tystiolaeth - dyled a'r pandemig Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan
eitemau 2, 3, 4 a 5. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Cartrefi Cymunedol
Cymru a CLlLC i gael rhagor o wybodaeth. |
|
(17.15 - 17.30) |
Ystyriaeth o Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Lluoedd Arfog Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd ac ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft
a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn amodol ar fân newidiadau, bydd yn
cytuno ar yr adroddiad yn electronig. |