Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

Cofnodion:

1.1.      Cafodd Carolyn Thomas ei hethol yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(09.15)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1. Cafwyd ymddiheuriadau gan John Griffiths AS. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.

 

2.2. Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan Mabon ap Gwynfor AS.

 

(09.15 - 10.30)

3.

Digartrefedd – sesiwn 1

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gaynor Toft, Pennaeth dros dro Tai a Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Sir Penfro

Steve Porter, Rheolwr Gweithrediadau Cartrefi Cymunedol, Cyngor Abertawe

Tracy Hague, Pennaeth Gwasanaeth Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Laura Garvey-Cubbon, Rheolwr Gweithredol, Strategaeth ac Angen Tai, Cyngor Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gaynor Toft, Pennaeth dros dro Tai a Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Sir Penfro

Steve Porter, Rheolwr Gweithrediadau, Cartrefi Cymunedol, Cyngor Abertawe

Tracy Hague, Pennaeth y Gwasanaeth Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Laura Garvey-Cubbon, Rheolwr Gweithredol, Strategaeth ac Angen Tai, Cyngor Caerdydd.

 

3.2. Cytunodd Naomi Alleyne i ddarparu ymateb ysgrifenedig ynghylch yr heriau a wynebir ar hyn o bryd mewn perthynas ag adeiladu tai newydd.

 

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion.

 

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â chraffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion.

 

4.3

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).

 

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb P-06-1272 – Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb P-06-1272 – Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

 

4.5

Gohebiaeth rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

 

4.6

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022.

 

4.7

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.

 

4.8

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).

 

(10.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.45 - 11.00)

6.

Digartrefedd – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3.

 

(11.00 - 11.15)

7.

Diweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Cofnodion:

7.1. Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).

 

(11.15 - 11.30)

8.

Diweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.