Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/09/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Murphy AS

1.2 Roedd Carolyn Thomas AS yn dirprwyo yn lle Sarah Murphy AS

Cyhoeddodd Samuel Kurtz AS ei fod yn gyfarwyddwr o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

(09.45)

2.

Papur(au) i’w nodi

2.1

Llythyr gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd at y Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

2.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â gwaith craffu Pwyllgorau'r Senedd ar Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(09.45 - 10.45)

3.

Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-ddwyrain Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru

Robert (Bob) Vaughan, Rheolwr Tir Cynaliadwy, Cyfoeth Naturiol Cymru

Cofnodion:

3.1 Atebodd Martin Cox a Robert (Bob) Vaughan o Cyfoeth Naturiol Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

(10.50-11.50)

4.

Materion sy'n wynebu busnesau Cymru - Canolbwyntio ar letygarwch, twristiaeth a manwerthu: Sesiwn dystiolaeth 1

Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Paul Slevin, Llywydd, Siambrau Cymru

Cofnodion:

4.1 Atebodd Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, a Paul Slevin, Siambrau Cymru, gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

4.2 Bydd Ben Cottam yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor a ddarparwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â sut gall adnewyddu’r contract economaidd ei wneud yn gliriach i fusnesau.

(12.00-13.00)

5.

Materion sy'n wynebu busnesau Cymru - Canolbwyntio ar letygarwch, twristiaeth a manwerthu: Sesiwn dystiolaeth 2

David Chapman: Cyfarwyddwr Gweithredol, UK Hospitality Cymru

Sara Jones, Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru

Suzy Davies, Cadeirydd, Cynghrair Twristiaeth Cymru

Cofnodion:

5.1 Atebodd David Chapman, UK Hospitality Cymru, Sara Jones, Consortiwm Manwerthu Cymru, a Suzy Davies, Cynghrair Twristiaeth Cymru, gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

(13.00-13.15)

6.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

(13.15-13.30)

7.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

(13.30)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(13.30-13.40)

9.

Trafod Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft

(13.40-13.50)

10.

Trafod Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ac i ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â’i gais am ragor o wybodaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

(13.50-14.00)

11.

Trafod y papur cytundeb rhyngwladol: y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ymchwil, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gydag argymhellion.