Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.30

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Luke Fletcher AS mewn perthynas ag eitem 2. Roedd Llyr Gruffydd AS yn dirprwyo ar gyfer yr eitem hon, ac roedd Luke Fletcher AS yn bresennol am weddill y cyfarfod.

1.3     Roedd Hefin David AS yn bresennol ar gyfer eitem 2, a rhoddodd ymddiheuriadau am weddill y cyfarfod.

1.4     O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Andrew RT Davies AS, Samuel Kurtz AS, Llyr Gruffydd AS a Huw Irranca-Davies AS fuddiant mewn perthynas ag eitem 2.

 

 

09.30 - 10.30

2.

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Materion Gwledig

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies AS (y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru), Richard Irvine (Llywodraeth Cymru), a Gian Marco Currado (Llywodraeth Cymru).

2.2     Datganodd Huw Irranca-Davies MS a Hannah Blythyn AS fuddiant mewn perthynas â chwestiwn yn y sesiwn hon, o dan Reol Sefydlog 17.24A.

 

10.35 - 11.20

3.

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Masnach a Ffiniau

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru

Emily Hole, Pennaeth Polisi Masnach, Llywodraeth Cymru

Helen John, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen Rheolaethau Ffiniau, Llywodraeth Cymru

Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies AS (Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru), Rebecca Evans AS (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru), Emily Hole (Llywodraeth Cymru), a Helen John (Llywodraeth Cymru).

 

 

11.30 - 12.50

4.

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Yr Economi a Sgiliau

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru

Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg, Llywodraeth Cymru

Liz Lalley, Cyfarwyddwr - Strategaeth Economaidd a Thyfu Gwyrdd, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau - Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru), Jack Sargeant AS (Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru), Jo Salway (Llywodraeth Cymru), Duncan Hamer (Llywodraeth Cymru), a Liz Lalley (Llywodraeth Cymru).

 

12.50

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.1

Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru

Dogfennau ategol:

5.2

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cludo) (Diwygio) 2025 - Dal a Thrin Dofednod

Dogfennau ategol:

5.3

Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

5.4

Bargeinion Dinesig a Thwf: Tirlun Cymorth Busnes - Dilyniant i gyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2025:

Dogfennau ategol:

5.5

Ymgynghoriad: Adolygu Effeithiolrwydd Pwyllgorau yn y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

5.6

Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiwylliant a’r Diwydiannau Creadigol

Dogfennau ategol:

5.7

Gwaith dilynol i gyfarfod y Pwyllgor ar 15 Mai: - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

5.8

Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm: Canfyddiadau cychwynnol

Dogfennau ategol:

12.50

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1     Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

12.50 - 13.05

7.

Gwaith craffu cyffredinol ar waith y Gweinidogion: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4.

7.2     Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gynnal sesiwn graffu gyffredinol ychwanegol ar faterion gwledig ddechrau tymor yr hydref.

 

13.05 - 13.15

8.

Trafod yr adroddiad monitro masnach

Cofnodion:

8.1     Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro masnach.

 

13.15 - 13.25

9.

Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE: Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

9.1     Trafododd y Pwyllgor ei bennod o’r adroddiad drafft terfynol, a chytunodd i’w chyhoeddi yn yr adroddiad ar y cyd.

 

13.25 - 13.45

10.

Iechyd Pridd mewn Amaethyddiaeth: Trafod materion allweddol

Cofnodion:

10.1   Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a gododd o’r ymchwiliad i Iechyd Pridd mewn Amaethyddiaeth, a chytunodd i fwrw ymlaen â drafftio adroddiad y Pwyllgor.

 

13:45-13:50

11.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) (2024 - 2025) Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

11.1   Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd i’w gyhoeddi.

 

13:50-14:05

12.

Trafod y Flaenraglen Waith

Cofnodion:

12.1   Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith arfaethedig ar gyfer tymor yr hydref, yng ngoleuni’r ddeddfwriaeth y disgwylir i Lywodraeth Cymru ei chyflwyno’n fuan ac sy’n dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor.

12.2   Trafododd y Pwyllgor hefyd ymchwiliad newydd i Fewnfuddsoddi a chytunodd i fwrw ymlaen ag ef, ac mae disgwyl cynllunio sesiynau tystiolaeth tua diwedd tymor yr hydref.