Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru
Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru
Inquiry5
Mae Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych
ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd
penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau,
masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.
Mae’r Pwyllgor yn
cynnal ymchwiliad archwiliadol byr i ddeallusrwydd artiffisial ac economi
Cymru.
Cylch gorchwyl
Yn benodol, bydd
y Pwyllgor yn ystyried:
>>>>
>>>I ba
raddau y mae busnesau yng Nghymru yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac yn
bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol?
>>>Beth
yw’r cyfleoedd a’r risgiau economaidd posibl y gallai deallusrwydd artiffisial
eu cyflwyno i Gymru, a sut y gallant amrywio ar draws gwahanol rannau o Gymru
ac ar draws gwahanol sectorau?
>>>Sut
mae deallusrwydd artiffisial yn debygol o effeithio ar swyddi a gweithwyr yng
Nghymru, a pha gamau y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
eu cymryd mewn ymateb i hynny?
>>>Pa
sgiliau sy’n debygol o fod eu hangen o ganlyniad i ddefnydd cynyddol o
ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle, a pha mor dda yw sefyllfa Cymru i
ddarparu’r sgiliau hynny?
<<<<
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad Deallusrwydd
Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid
trydan? ar 20 Mai 2025 (PDF 2.2 MB)
Ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF 148KB)
Cynhaliwyd dadl
yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Medi 2025.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2024
Ymgynghoriadau
- Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru (Wedi ei gyflawni)