Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        O dan Reol Sefydlog 17.22, etholwyd Sam Kurtz AS yn Gadeirydd dros dro.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies AS.

1.4        Datganodd Jenny Rathbone MS fod ganddi gyfranddaliadau yn Siemens ac Awl Aman Tawe, a bod ei phartner yn gynghorydd i Bute Energy.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1        Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

 

2.1

Ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

TB Buchol

Dogfennau ategol:

2.3

Sesiwn gyffredinol i graffu ar waith y Gweinidog – 13 Mehefin 2024: Gwaith dilynol

Dogfennau ategol:

2.4

Hybu Cig Cymru

Dogfennau ategol:

2.5

Dyfodol Dur yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(09.30-10.15)

3.

Craffu cyffredinol ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Aine Gawthorpe, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol ac Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

Helen John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Prosiectau – Rheolaethau’r Ffin a’r Cynllun Cofrestri a Thrwyddedu Statudol, Llywodraeth Cymru

Neil Surman, Dirprwy Gyfarddwr - Sgiliau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1        Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.

3.2        Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi gwybod am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amnewid a gwella diogelwch bwyd o amgylch cynhyrchion sylfaenol.

3.3        Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu rhagor o wybodaeth am y rhesymau dros ohirio trafodaethau bargen fasnach â Chanada a Mecsico.

3.4        Ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i gyhoeddi papur Llywodraeth Cymru ar ei hymagwedd at bolisi masnach a’r amcanion polisi trawsbynciol ar ôl yr etholiad cyffredinol.

3.5        Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chwestiynau oedd gan yr Aelodau ar Borthladdoedd Rhydd, nad oedd cyfle i’w gofyn yn ystod y sesiwn.

 

(10.20-11.05)

4.

Ymchwiliad i’r Economi Werdd: Panel 9 – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Aine Gawthorpe, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol ac Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

Rhodri Asby, Dirprwy Gyfarddwr, Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol, Llywodraeth Cymru

Neil Surman, Dirprwy Gyfarddwr - Sgiliau, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

4.1        Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar yr economi werdd.

 

 

(11.05)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1        Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

 

(11.05-11.15)

6.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

6.1        Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

 

(11.15-11.30)

7.

Trafod y flaenraglen waith

Cofnodion:

7.1        Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2024, a chytunodd arni.