Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/01/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Croesawodd y Cadeirydd Sioned Williams AS i'r Pwyllgor, gan gymryd lle Siân Gwenllian AS. Diolchodd y Cadeirydd i Siân am ei chyfraniad amhrisiadwy i’r Pwyllgor ers dechrau’r Senedd hon, yn ogystal â’i gwaith ar y Pwyllgor a’i rhagflaenodd. 

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS o eitem 5 ymlaen, a dirprwyodd Carolyn Thomas AS.

1.5 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe ai fod yn Aelod or Undeb Prifysgolion a Cholegau ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddysgedig.

 

(09.15 - 11.15)

2.

Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 11

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Zenny Saunders, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) - Llywodraeth Cymru

David Morris, Tîm Polisi - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y canlynol:

-      Gwybodaeth gymharol am gyfansoddiad a’r gwahanol fathau o aelodaeth Bwrdd mewn sefydliadau tebyg i'r Comisiwn;

-      Rhagor o wybodaeth am y safbwynt diweddaraf ar y pŵer i ddiddymu Corfforaethau Addysg Uwch;

-      Rhagor o wybodaeth am y materion sy'n codi o'r ddeiseb ar y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig;

       Rhagor o wybodaeth am sut y gall y Bil gefnogi rhyddid academaidd i academyddion unigol, yn hytrach na'r amddiffyniadau ehangach yn y Bil ar gyfer rhyddid academaidd sefydliadol;

       Rhagor o wybodaeth am sut y bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Comisiwn a chyrff cysylltiedig eraill yn cydweithio mewn perthynas â'u rolau o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg; ac

       A roddwyd cydsyniad ar gyfer adran 128.

 

(11.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4, eitem 7, eitem 8, eitem 9 ac eitem 10 ar agenda’r cyfarfod.

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 12.00)

4.

Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth a’r materion allweddol

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf ar 10 Chwefror.

 

(13.00 - 14.30)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 - 23 - sesiwn dystiolaeth 1

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwraig GIG Cymru - Llywodraeth Cymru

Steve Elliot, Cyfarwyddwr Cyllid - Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru - Llywodraeth Cymru

Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi - Llywodraeth Cymru

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Iechyd Meddwl,  Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed - Llywodraeth Cymru

Irfon Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Poblogaethau - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

5.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu nodyn gyda data yn nodi gwariant penodol ar blant a phobl ifanc ar draws ei phortffolio (e.e. ar wasanaethau pediatrig a gwasanaethau iechyd meddwl y glasoed) i’r graddau y cesglir y wybodaeth honno gan y GIG/Llywodraeth neu mae’r wybodaeth ar gael iddynt.

5.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am yr Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant sy'n bwydo i mewn i benderfyniadau polisi a adlewyrchir yn y Gyllideb Ddrafft.

 

(14.30)

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

6.1

Craffu ar Gyfrifon – Comisiwn y Senedd

Dogfennau ategol:

6.2

Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.3

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

6.4

Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.5

Adroddiad Blynyddol Estyn

Dogfennau ategol:

6.6

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

6.7

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

6.8

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

6.9

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

6.10

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

Dogfennau ategol:

6.11

Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.12

Amserlen pwyllgorau

Dogfennau ategol:

6.13

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

(14.30 - 14.40)

7.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(14.40 - 14.50)

8.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - ystyried cylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad

Cofnodion:

8.1 Yn amodol ar wneud mân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad. Caiff papur dull gweithredu ei drafod yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

(14.50 - 15.05)

9.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd i ysgrifennu ar y cyd â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am wybodaeth gan randdeiliaid penodol.

 

(15.05 - 15.15)

10.

Ystyried y dull o ran hyfforddiant ar Hawliau Plant.

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i gymryd rhan yn yr hyfforddiant Hawliau Plant ar 10 Chwefror.