Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/11/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.  Nododd y Cadeirydd y byddai Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Siân Gwenllian AS ar gyfer eitemau 5 i 10.

 

1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe, datganodd James Evans AS mai ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl, Llesiant a Chanolbarth Cymru, a datganodd Laura Jones AS bod ei mam yn Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd yng Nghyngor Sir Fynwy.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Jane Houston, Cynghorydd Polisi - Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

 

Adroddiad Blynyddol 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Fe wnaeth y Pwyllgor graffu ar y Comisiynydd ynghylch ei hadroddiad blynyddol.

2.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu papur i'r Pwyllgor a gyflwynwyd i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr adolygiad statudol ar addysg gartref ddewisol a rheoleiddio ysgolion annibynnol.

 

(10.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 6

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15 - 10.20)

4.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddysgu mwy am eu gwaith ar iechyd meddwl gydag elusennau.

 

 

(10.30 - 12.00)

5.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Zenny Saunders, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol – Llywodraeth Cymru

David Morris, Tîm polisi – Llywodraeth Cymru

Helen Jones, Tîm polisi – Llywodraeth Cymru

Cath Wyatt, Rheolwr y Bil – Llywodraeth Cymru

 

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

5.2 Cytunodd y Gweinidog i rannu’r canlynol â'r Pwyllgor:

- sut y mae'n rhagweld y bydd y berthynas rhwng cyflogwyr, cyrff dyfarnu, y Comisiwn a Chymwysterau Cymru yn gwella drwy'r Bil; a’r

- Cynllun Gweithredu Deddfwriaeth.

5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda'r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y sesiwn.

 

 

(12.00 - 12.10)

6.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

6.2 Cytunodd yr Aelodau i wahodd yr undebau i roi tystiolaeth lafar yn y cyfarfod ar 9 Rhagfyr.

 

(13.15 - 14.15)

7.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2

David Blaney, Prif Weithredwr - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Bethan Owen, Dirprwy Brif Weithredwr - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan CCAUC.

 

(14.15)

8.

Papur i'w nodi

Cofnodion:

8.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

8.1

Gofal plant a chyflogaeth rhieni: y pandemig a thu hwnt

Dogfennau ategol:

8.2

Materion sy'n ymwneud â chyfiawnder - Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Dogfennau ategol:

8.3

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022 - 2023

Dogfennau ategol:

8.4

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022 - 2023

Dogfennau ategol:

8.5

Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dogfennau ategol:

8.6

Craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

8.7

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23

Dogfennau ategol:

(14.15)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

9.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.15 - 14.25)

10.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(14.25 - 14.45)

11.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

11.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o eglurhad.

 

(14.45 - 15.00)

12.

Trafod Gweledigaeth Strategol y Pwyllgor

Cofnodion:

12.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei weledigaeth strategol.

12.2 Trafododd yr Aelodau bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad yn nhymor y gwanwyn, a chaiff papur cwmpasu ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.