Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, datganodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu bod y cyhoedd wedi eu gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 2

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Amanda Blakeman, Dirprwy Brif Gwnstabl  ac Arweinydd Plismona sy'n Canolbwyntio ar Blant

Jon Drake, Cyfarwyddwr Uned Diogelu rhag Trais Cymru

Claire Parmenter, Dirprwy Brif Gwnstabl ac Arweinydd Plismona yng Nghymru

Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Arweinydd Plismona yng Nghymru

Stephen Wood, Rheolwr Tîm Troseddau Ieuenctid

Kirsty Davies, Rheolwr Gweithredol, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Casnewydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr cyfiawnder troseddol.

2.2 Cytunodd DCC Claire Parmenter i ddarparu ystadegau i'r Pwyllgor gan luoedd eraill ynghylch lefelau adrodd ac astudiaethau achos yn ymwneud â’r berthynas gadarnhaol â swyddogion ysgol a phobl ifanc.

 

(10.25 - 11.25)

3.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 3

Sharon Davies, Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Sue Walker, Prif Swyddog Addysg, Merthyr Tudful ac yn cynrychioli Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol.

3.2 Cytunodd CLlLC i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr ynghylch y Bil Diogelwch a Niwed Ar-lein.

 

(11.35 - 12.35)

4.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 4

Maxine Thomas, Uwch-arweinydd Dynodedig Diogelu a Llesiant Dysgwyr, Coleg Sir Benfro ac yn cynrychioli ColegauCymru

Jamie Insole, Swyddog Polisi, Undeb Prifysgolion a Cholegau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr addysg bellach.

4.2 Cytunodd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau i ddod yn ôl at y Pwyllgor gydag unrhyw dystiolaeth o’r effaith a gaiff achosion o aflonyddu rhywiol a bwlio rhywiol ar gynnal disgyblaeth yn y coleg ac a yw'n cyflwyno heriau newydd i staff addysgu.

 

(13.15 - 14.00)

5.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 5

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Jane Houston, Cynghorydd Polisi - Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Cecile Gwilym, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, NSPCC 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Plant a’r NSPCC.

 

(14.00)

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

6.1

Mae papurau i'w nodi 1 - 16 mewn ymateb i lythyr gan y Pwyllgor yn gofyn am wybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol

Dogfennau ategol:

6.2

Mae papurau i'w nodi 17 - 22 mewn ymateb i lythyr gan y Pwyllgor yn gofyn am wybodaeth am ymweliadau Ymwelwyr Iechyd

Dogfennau ategol:

6.3

Mae papurau i'w nodi 23 - 35 mewn ymateb i lythyr gan y Pwyllgor yn gofyn am wybodaeth am y Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

6.4

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Dogfennau ategol:

6.5

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Dogfennau ategol:

6.6

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

6.7

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.8

Gwrandawiad cyn penodi Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

6.9

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Dogfennau ategol:

6.10

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

Dogfennau ategol:

6.11

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.12

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.13

Craffu ar Gyfrifon – Comisiwn y Senedd

Dogfennau ategol:

(14.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(14.00 - 14.05)

8.

Ystyried y papurau i’w nodi 1 – 22

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papurau a'r nodyn crynodeb.

 

(14.05 - 14.15)

9.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiwn flaenorol.

 

(14.15 - 14.35)

10.

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - y wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru

Cofnodion:

10.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad llafar gan gynrychiolwyr Tîm Senedd Ieuenctid Cymru.