Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 13/01/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. 1.3 Croesawodd y Cadeirydd Sioned Williams AS i'r Pwyllgor,
gan gymryd lle Siân Gwenllian AS. Diolchodd y Cadeirydd i Siân am ei chyfraniad
amhrisiadwy i’r Pwyllgor ers dechrau’r Senedd hon, yn ogystal â’i gwaith ar y
Pwyllgor a’i rhagflaenodd. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS o eitem 5
ymlaen, a dirprwyodd Carolyn Thomas AS. 1.5 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams
AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi
gan Brifysgol Abertawe a’i fod yn
Aelod o’r Undeb Prifysgolion a Cholegau ac yn gymrawd o'r
Gymdeithas Ddysgedig. |
|
(09.15 - 11.15) |
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 11 Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Zenny Saunders,
Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) -
Llywodraeth Cymru David Morris, Tîm
Polisi - Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg. 2.2
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y canlynol: - Gwybodaeth gymharol am gyfansoddiad a’r gwahanol fathau o aelodaeth Bwrdd
mewn sefydliadau tebyg i'r Comisiwn; - Rhagor o wybodaeth am y safbwynt diweddaraf ar y pŵer i ddiddymu
Corfforaethau Addysg Uwch; - Rhagor o wybodaeth am y materion sy'n codi o'r ddeiseb ar y fwrsariaeth
STEMM ôl-raddedig; • Rhagor
o wybodaeth am sut y gall y Bil gefnogi rhyddid academaidd i academyddion
unigol, yn hytrach na'r amddiffyniadau ehangach yn y Bil ar gyfer rhyddid
academaidd sefydliadol; • Rhagor
o wybodaeth am sut y bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Comisiwn a chyrff
cysylltiedig eraill yn cydweithio mewn perthynas â'u rolau o ran darpariaeth
cyfrwng Cymraeg; ac • A roddwyd cydsyniad ar gyfer adran 128. |
|
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4, eitem 7, eitem 8, eitem 9 ac eitem 10 ar agenda’r cyfarfod. Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.15 - 12.00) |
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth a’r materion allweddol Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Bydd
adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf ar 10 Chwefror. |
|
(13.00 - 14.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 - 23 - sesiwn dystiolaeth 1 Eluned Morgan AS,
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS,
y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS,
y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Judith Paget, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Cyfarwyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif
Weithredwraig GIG Cymru - Llywodraeth Cymru Steve Elliot, Cyfarwyddwr
Cyllid - Llywodraeth Cymru Albert Heaney,
Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru - Llywodraeth Cymru Claire Bennett, Cyfarwyddwr
Cymunedau a Threchu Tlodi - Llywodraeth Cymru Tracey Breheny,
Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Iechyd Meddwl,
Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed - Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Dirprwy
Gyfarwyddwr Iechyd Poblogaethau - Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r
Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant mewn perthynas â chyllideb ddrafft
Llywodraeth Cymru. 5.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ddarparu nodyn gyda data yn nodi gwariant penodol ar blant a
phobl ifanc ar draws ei phortffolio (e.e. ar wasanaethau pediatrig a
gwasanaethau iechyd meddwl y glasoed) i’r graddau y cesglir y wybodaeth honno
gan y GIG/Llywodraeth neu mae’r wybodaeth ar gael iddynt. 5.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am yr Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau
Plant sy'n bwydo i mewn i benderfyniadau polisi a adlewyrchir yn y Gyllideb
Ddrafft. |
|
(14.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 6.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Craffu ar Gyfrifon – Comisiwn y Senedd Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Blynyddol Estyn Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Amserlen pwyllgorau Dogfennau ategol: |
||
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Dogfennau ategol: |
||
(14.30 - 14.40) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiwn flaenorol. |
|
(14.40 - 14.50) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - ystyried cylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad Cofnodion: 8.1 Yn amodol ar wneud mân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor
ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad. Caiff papur dull gweithredu ei drafod yn y
cyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
(14.50 - 15.05) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol, a chytunodd i ysgrifennu ar y cyd â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth
ac i ofyn am wybodaeth gan randdeiliaid penodol. |
|
(15.05 - 15.15) |
Ystyried y dull o ran hyfforddiant ar Hawliau Plant. Cofnodion: 10.1 Cytunodd y Pwyllgor i gymryd rhan yn yr hyfforddiant
Hawliau Plant ar 10 Chwefror. |