Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 18/11/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. 1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y byddai Sioned Williams
AS yn dirprwyo ar ran Siân Gwenllian AS ar gyfer eitemau 5 i 10. 1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams
AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi
gan Brifysgol Abertawe, datganodd James Evans AS mai ef oedd Gweinidog yr
Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl, Llesiant a Chanolbarth Cymru, a datganodd
Laura Jones AS bod ei mam yn Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac
Iechyd yng Nghyngor Sir Fynwy. |
|
(09.15 - 10.15) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21 Sally Holland,
Comisiynydd Plant Cymru Jane Houston,
Cynghorydd Polisi - Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Fe wnaeth y Pwyllgor graffu ar y Comisiynydd ynghylch
ei hadroddiad blynyddol. 2.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu papur i'r Pwyllgor
a gyflwynwyd i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr adolygiad
statudol ar addysg gartref ddewisol a rheoleiddio ysgolion annibynnol. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 6 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.15 - 10.20) |
Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Byrddau
Partneriaeth Rhanbarthol i ddysgu mwy am eu gwaith ar iechyd meddwl gydag
elusennau. |
|
(10.30 - 12.00) |
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1 Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Zenny Saunders,
Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol – Llywodraeth Cymru David Morris, Tîm
polisi – Llywodraeth Cymru Helen Jones, Tîm polisi
– Llywodraeth Cymru Cath Wyatt, Rheolwr
y Bil – Llywodraeth Cymru Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg
ac Addysg. 5.2 Cytunodd y Gweinidog i rannu’r canlynol â'r Pwyllgor: - sut y mae'n rhagweld y bydd y berthynas rhwng
cyflogwyr, cyrff dyfarnu, y Comisiwn a Chymwysterau Cymru yn gwella drwy'r Bil;
a’r - Cynllun Gweithredu Deddfwriaeth. 5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog
gyda'r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(12.00 - 12.10) |
Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. 6.2 Cytunodd yr Aelodau i wahodd yr undebau i roi
tystiolaeth lafar yn y cyfarfod ar 9 Rhagfyr. |
|
(13.15 - 14.15) |
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2 David Blaney,
Prif Weithredwr - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) Bethan Owen,
Dirprwy Brif Weithredwr - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan CCAUC. |
|
(14.15) |
Papur i'w nodi Cofnodion: 8.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Gofal plant a chyflogaeth rhieni: y pandemig a thu hwnt Dogfennau ategol: |
||
Materion sy'n ymwneud â chyfiawnder - Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022 - 2023 Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022 - 2023 Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
(14.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 9.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.15 - 14.25) |
Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. |
|
(14.25 - 14.45) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Cofnodion: 11.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol. 11.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
yn gofyn am ragor o eglurhad. |
|
(14.45 - 15.00) |
Trafod Gweledigaeth Strategol y Pwyllgor Cofnodion: 12.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei weledigaeth strategol. 12.2 Trafododd yr Aelodau bynciau posibl ar gyfer
ymchwiliad yn nhymor y gwanwyn, a chaiff papur cwmpasu ei drafod mewn cyfarfod
yn y dyfodol. |