Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/02/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus |
|
(09:15-09:30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2 Cafodd y papurau eu nodi. 2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth
Cymru i ofyn am ymateb o sylwedd i’w lythyr cychwynnol dyddiedig 14 Rhagfyr
2023. 2.2 Datganodd Adam Price AS y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n Gomisiynydd y Senedd. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at Lywodraeth
Cymru i ofyn am eglurhad ar rai o'r materion a godwyd yn eu hymateb. |
|
Llythyr oddi wrth Grŵp Prif Swyddogion Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Benodiadau Cyhoeddus Dogfennau ategol: |
||
Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Gyfrifon 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, y Trysorlys a Chyfansoddiad Llywodraeth Cymru ar Fferm Gilestone a’r Cynllun Cadwraeth Gweilch Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, y Trysorlys a Chyfansoddiad Llywodraeth Cymru ar Amgueddfa Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio Dogfennau ategol: |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol: |
||
(09:30-11:00) |
Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru – Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon Swyddogion
Llywodraeth Cymru Sioned Evans -
Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp
Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg Owain Lloyd -
Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Holodd yr Aelodau'r tystion fel rhan o ymchwiliad y
Pwyllgor i Gyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon. |
|
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw ac Eitem 1 o gyfarfod y Pwyllgor ddydd Iau 7 Mawrth 2024 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig |
|
(11:00-110:10) |
(Egwyl) |
|
(11:10-11:30) |
Trafod y dystiolaeth a gafwyd – Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a
chytunodd i ysgrifennu at Estyn i ofyn am ei farn mewn perthynas ag ymchwiliad
y Pwyllgor ar Gyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon. |
|
(11:30-11:45) |
Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru 2021-22 – y Camau Nesaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth bellach i'r ymateb i'r
adroddiad a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o
wybodaeth. |