Fferm Gilestone

Fferm Gilestone

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cytuno i graffu ar bryniant Fferm Gilestone gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:

 

>>>> 

>>>Cefndir y penderfyniad i brynu’r fferm

>>>Y pwerau, y fframwaith polisi a’r ystyriaethau ariannol y tu ôl i benderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu’r fferm

>>>Y broses o wneud penderfyniadau wrth brynu’r fferm

>>>Y pris a dalwyd a’r trefniadau i lesio’r fferm yn ôl yn y tymor byr

>>>Y sefyllfa hirdymor o ran y les

>>>Goblygiadau ehangach

<<< 

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth lafar gyda Llywodraeth Cymru ar 14 Gorffennaf 2022, ac yna fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar 8 Awst 2023. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i lythyr y Pwyllgor ar 26 Medi 2022.

 

Ysgrifennodd yr Archwilydd Cyffredinol at y Pwyllgor ar 19 Ionawr 2023 yn nodi canfyddiadau ei adolygiad o'r digwyddiadau yn arwain at bryniant Llywodraeth Cymru o  Fferm Gilestone.  Cafodd y canfyddiadau eu hystyried yn breifat gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror 2023.

 

Er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor ymhellach yn ei ddull o graffu yn y dyfodol, ysgrifennodd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru ar 10 Chwefror 2023 yn gofyn am fwy o wybodaeth. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 14 Mawrth 2023.

 

Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol o faterion heb eu datrys sy'n ymwneud â threfniadau parhaus Llywodraeth Cymru gyda phrydles bresennol Fferm Gilestone, yr ydym yn deall eu bod wedi’u hymestyn y tu hwnt i ddyddiad gwreiddiol y brydles a ddaeth i ben ar 31 Hydref 2023.

 

Mae'r Pwyllgor yn dal i aros am wybodaeth am unrhyw benderfyniadau gan y Gweinidogion am hyn neu unrhyw drefniadau wrth gefn amgen neu estyniadau sydd wedi'u rhoi ar waith. Bydd gwaith y Pwyllgor yn cael ei ohirio nes bod ganddo ragor o wybodaeth.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru ar 20 Mawrth 2025 yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ynglŷn â Gilestone Farm. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 28 Ebrill 2025; trafododd y Pwyllgor y llythyr yn ei gyfarfod ar 14 Mai 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ddydd Llun 28 Gorffennaf 2025. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2025, ac fe’i ystyriwyd yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ddydd Mercher 15 Hydref.

 

 

Math o fusnes: Gwelliant

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2022

Dogfennau