Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22

Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22

Ym mis Hydref 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Bumed Senedd waith craffu ar adroddiad ariannol Amgueddfa Cymru ar gyfer 2017-18. Gwnaeth y Pwyllgor saith argymhelliad yn ei adroddiad, 'Craffu ar Gyfrifon 2017-18’ ym mis Mawrth 2019 yn ymwneud yn benodol ag Amgueddfa Cymru (Argymhellion 34 i 40). Ymatebodd yr Amgueddfa i'r argymhellion.

 

Yn ei adroddiad ar Adroddiad Ariannol Amgueddfa Cymru ar gyfer 2020-21 (Ionawr 2022), nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hwyr yn y broses archwilio, i bryderon gael eu codi gydag archwilwyr ynghylch eglurder rolau a chyfrifoldebau priodol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a'r Bwrdd Gweithredol. Oedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei archwiliad a diweddarodd Amgueddfa Cymru ei Datganiad Llywodraethu Blynyddol i gynnwys gwybodaeth am y mater. Nodwyd wedi hynny ym mis Mawrth 2022 fod anghydfod rhwng uwch-dîm rheoli Amgueddfa Cymru a’i fwrdd o ymddiriedolwyr.

 

Ym mis Ionawr 2022, dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fod Amgueddfa Cymru wedi nodi iddi ddymuno bod yn rhan o broses adolygiad wedi’i deilwra Llywodraeth Cymru. 

 

Cyhoeddodd Panel yr Adolygiad wedi’i Deilwra ei adroddiad terfynol ym mis Gorffennaf 2023.

 

Cytunodd y Pwyllgor i graffu ar y Cyfrifon yn ogystal ag edrych ar y pryderon a fynegwyd gan Archwilio Cymru, a’r rhai a geir yn adroddiad yr Adolygiad wedi’i Deilwra.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar 29 Tachwedd 2023 ac ysgrifennodd atynt wedi hynny i fynd ar drywydd nifer o faterion. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 6 Chwefror 2024.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2024

Dogfennau