Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 02/03/2022 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Rhag–gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.45-10.00) |
||
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y
Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Roedd
Jack Sargeant AS yn bresennol ar ei rhan fel dirprwy. |
|
(10.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol - 15 Chwefror 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2022-23 - 15 Chwefror 2022 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc – 18 Chwefror 2022 Dogfennau ategol: |
||
(10.00-11.00) |
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Sharon Bounds, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru Dogfennau
ategol: Ail Gyllideb Atodol
Llywodraeth Cymru 2021-22 Papur Briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Rheoli Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Busnes y
Llywodraeth ynghylch Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r eitemau a
ganlyn i’r Pwyllgor: ·
Diweddariad ar y gorwariant ar
wasanaethau gofal iechyd sydd wedi ei ddileu yn Lloegr, ac unrhyw symiau
canlyniadol Barnett a gafodd Llywodraeth Cymru o ganlyniad. ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y
dyraniad cyllid ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y sector
gwirfoddol, yn enwedig hosbisau a gofalwyr di-dâl. ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y
dyraniad cyllid ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn enwedig amcanion penodol y
cyllid hwn. ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y
dyraniad cyllid ar gyfer uwchraddio adeiladau ysgolion mewn perthynas â darparu
prydau ysgol am ddim. ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwerthusiad
ffurfiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau cymorth busnes a
gyflwynwyd yn ystod pandemig COVID-19. ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am waith
modelu sy'n cael ei wneud mewn perthynas â bil cyflogau'r sector cyhoeddus yn y
dyfodol. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfod ar 11 Mawrth 2022. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00 - 11.15) |
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth. |
|
(11.15-12.15) |
Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)? Trafod y materion allweddol Dogfennau
ategol: FIN(6)-08-22 P1 -
Papur Materion Allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a chytunodd
i ailedrych arnynt yn ei gyfarfod ar 11 Mawrth. |
|
(12.15-12.30) |
Trefniadau ariannu ar ôl yr UE: Trafod y papur cwmpasu FIN(6)-08-22 P2 – Papur cwmpasu FIN(6)-08-22 P3 -
Y llythyr ymgynghori a rhestr o ymgyngoreion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd i
gynnal ymchwiliad i drefniadau ariannu ar ôl yr UE. |